Newyddion CFfI Cymru
Ewch yn Goch ar gyfer Mis y Galon 2025
Mis Chwefror yw Mis y Galon ac mae British Heart Foundation (BHF) Cymru yn annog Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Cymru i helpu i frwydro yn erbyn clefyd y galon a chylchrediad y gwaed trwy eich annog i ‘Fynd yn Goch’ ym mis Chwefror.


Mis Chwefror yw Mis y Galon a hoffem eich gwahodd i ‘Ewch yn Goch’ unrhyw ffordd y gallwch i godi arian ar gyfer ymchwil achub bywyd – gallwch drefnu bore coffi, taith gerdded noddedig, cwis ar thema goch, dawns-a-thon!
Mae Ewch yn Goch i Mis y Galon yn ymwneud â dod ynghyd â’ch cymuned, gan fod gormod ohonom wedi teimlo poen clefyd y galon a chlefyd cylchrediadol.
Ar hyn o bryd, mae 340,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed, ac ar gyfartaledd mae 26 o bobl yng Nghymru yn marw bob dydd o ganlyniad i gyflwr ar y galon; sy’n golygu bob dydd, bydd 26 o deuluoedd yng Nghymru yn colli rhywun arbennig. Mae BHF Cymru yn benderfynol o wneud popeth o fewn eu gallu i achub a gwella bywydau, a chadw teuluoedd gyda’i gilydd am gyfnod hirach.
Ymunwch â ni ym mis Chwefror a dechrau cynllunio ffordd y gallwch hyrwyddo eich gweithgareddau a chasglu rhoddion.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jayne Lewis ar:
lewisja@bhf.org.uk neu 07860 727 547
Am ysbrydoliaeth a syniadau codi arian, gallwch ymweld â’n gwefan: https://www.bhf.org.uk/how-you-can-help/fundraise/go-red