Newyddion CFfI Cymru

Eisteddfod Rithiol CFfI Cymru 2021

Bydd Eisteddfod flynyddol CFfI Cymru yn mynd yn ei flaen eleni ar draws rhith-lwyfannau’r sefydliad. 

Yn cael ei gynnal dros gyfnod o bedwar diwrnod o’r 28ain o Fawrth hyd at y 31ain o Fawrth, bydd ceisiadau aelodau CFfI ar draws y 12 ffederasiwn sirol yn cael eu dangos yn Eisteddfod CFfI Cymru.

Tra mai hwn yw Eisteddfod Rithiol cyntaf CFfI Cymru, mae’r Eisteddfod dal yn cynnig y cyfle i aelodau gystadlu yn yr adran gerdd, lefaru, ysgafn a gwaith cartref.

Mae ‘Fideo Cerddoriaeth’ yn gystadleuaeth newydd yn y rhaglen ar gyfer eleni ac mae’n herio cystadleuwyr i feimio a chreu fideo cerddoriaeth i unrhyw gân neu ganeuon a ryddhawyd gan y Welsh Whisperer. Mae cystadlaethau arall yn yr adran ysgafn yn cynnwys stori a meim  a “stand up”.

Bydd y canlyniadau ar gyfer yr holl gystadlaethau yn cael eu rhyddhau ar ein gwefannau cymdeithasol dros y 4 diwrnod, gyda’r canlyniadau llawn ar gael ar ein gwefan yn fuan wedi hynny.

Prif noddwyr y digwyddiad eleni yw Undeb Amaethwyr Cymru.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae UAC yn falch o fod yn brif noddwr Eisteddfod Rithiol CFfI Cymru. Mae’r amser yma yn anodd i bawb a rhaid canmol CFfI Cymru am barhau yn eu gwaith a chynnal y digwyddiad pwysig hwn, er gwaethaf yr holl heriau. Mae cystadlu yn yr Eisteddfod a siarad cyhoeddus yn dysgu llawer o bethau i’n pobl ifanc ac yn helpu i fagu hyder. Yn wir, oni bai am y CFfI, mae’n debyg na fyddwn yn Llywydd UAC heddiw. Rwy’n dymuno pob lwc i’r holl gyfranogwyr.”

Ni all CFfI Cymru aros i arddangos holl dalentau ein haelodau yn yr Eisteddfod eleni! Rydym yn dymuno pob lwc i bob aelod ar draws yr holl gystadlaethau, ac rydym wir yn gobeithio i’ch gweld yn y cnawd yn Eisteddfod 2022.