Newyddion CFfI Cymru
Eisteddfod CFfI Cymru 2024
Ysgol Bro Myrddin, Sir Gâr oedd cartref Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru eleni. Ar yr 2il o Dachwedd, croesawodd aelodau CFfI Sir Gâr gystadleuwyr a chefnogwyr o Gymru gyfan i gymryd rhan a mwynhau gwledd o dalentau pobol ifanc cefn gwald Cymru. Cadeirydd yr Eisteddfod eleni oedd Dai Baker a Llywydd yr Eisteddfod oedd Sioned Page-Jones. Gwelodd y digwyddiad 800 o gystadleuwyr yn cystadlu o 12 ffederasiwn sirol, tipyn o gamp! Cafodd y diwrnod ei noddi gan y noddwyr canlynol: D.I.Evans, Forest Arms, Castell Howell, Rees Richards, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen a JDS Machinery.
Roedd yr Eisteddfod yn cynnwys amrywiaeth eang o gystadlaethau, rhai cerddorol, llefaru, ysgafn, dawns yn ogystal ag adran Gwaith Cartref a oedd yn cynnwys, gwaith ysgrifenedig, celf, ffotograffiaeth a chyfansoddi. Yn dilyn diwrnod o gystadlu, Ceredigion daeth i’r brig i ennill Tarian Mansel Chales gyda 47 o bwyntiau. Gyda 45 o bwyntiau, Ffederasiwn Sir Gâr daeth yn ail a Ffederasiwn Sir Benfro yn drydydd gyda 41 o bwyntiau.
Aled Jones oedd Meistr y Ddefod eleni ble ddaeth dau aelod i’r brig. Diolch i Persimmon Homes am noddi’r gadair ac i Lwyddo’n Lleol am noddi’r Goron. Crëwyd y gadair eleni gan ddau sy’n gysylltiedig â Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni. Cwblhawyd yr elfen bren gan Siôn Evans, cyn-Gadeirydd y sir, a’r gwaith metel gan Hefin Jones. Mared Fflur Jones ddaeth yn fuddugol eleni yn y gystadleuaeth Gerdd gyda cherdd dan thema ‘Gwreiddiau.’ Mae Mared yn athrawes Cymraeg yn Ysgol Botwnnog, Ynys Môn. Elain Iorwerth o Glwb Prysor ac Eden, Meirionnydd enillodd y Goron eleni a chafodd ei chreu gan Lowri Elen Jones (Fflam Goch) o CFfI Dyffryn Tywi. Mae Elain yn wyneb cyfarwydd i’r mudiad gan ei bod hi’n gyn aelod Iau’r Flwyddyn CFfI Cymru rhwng 2023 a 2024. Mae Elain yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Trosedd a Chyfiawnder Troseddol.
Llongyfarchiadau cynnes i’r ddwy.
Cyhoeddwyd Dysgwr y Flwyddyn ac enillydd y wobr Calondid yn ystod seremoni Gwobrau Cymraeg. Llongyfarchiadau cynnes i Deryn Evans o CFfI Brycheiniog a dderbyniodd y teitl o Ddysgwr y Flwyddyn 2024 ac i Lynne Roberts-Watkins o CFfI Maldwyn am ennill y wobr Calondid 2024. Hyfryd oedd y cyfle i ddathlu unigolion o fewn y mudiad sydd yn ymdrechu i ddysgu’r iaith ac yn diogelu ei dyfodol.
Yn dilyn yr holl gystadlu, roedd hi’n amser datgan y canlyniadau. Hannah Richards o CFfI Sir Gâr enillodd y Cwpan Parcwilws am yr unawd sioe gerdd neu ffilm orau. Ffion Thomas o CFfI Sir Benfro cafodd ei henwi fel unawdydd gorau yn yr adran Gerdd a derbyniodd Cwpan Ardudwy. Elin Williams o Geredigion ddaeth i’r brig fel llefarydd gorau’r Eisteddfod gan ennill Cwpan CFfI Cymru. Cyflwynwyd Cwpan Joy Cornock i’r unigolyn mwyaf addawol sef Tomos Heddwyn Griffiths o Feirionnydd.
Cystadleuaeth olaf y dydd oedd y corau, gyda 5 sir yn cystadlu trwy ganu ‘Dere ‘Nôl’, cân a gomisiynwyd gan Meinir Richards yn arbennig i’r digwyddiad. Yn dilyn canu o safon, cyhoeddwyd mai Sir Gâr oedd yn llwyddiannus, gyda CFfI Sir Benfro yn ail a CFfI Ceredigion yn drydydd.
CFfI Sir Gâr oedd hefyd yn llwyddiannus yn yr adran Gwaith Cartref ac enillodd Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Dinbych ond Ceredigion oedd yn llwyddiannus ar y llwyfan ac enillodd tarian Elonwy Phillips.
Hoffai CFfI Cymru ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r diwrnod gan sicrhau ei fod yn un llwyddiannus, boed hynny’n gystadleuwyr, stiwardied neu gefnogwyr. Diolch yn arbennig i’r holl feirniaid ac i’r cyfeilyddion gwych a oedd yn brysur trwy’r dydd, a hefyd i bwyllgor Eisteddfod Sir Gâr am eu gwaith, cefnogaeth a chroeso wrth drefnu a gwesteio’r Eisteddfod.
Llongyfarchiadau cynnes i Geredigion am ddod i’r brig ac edrychwn ymlaen at groesawi bawb i Eisteddfod CFfI Cymru 2025 yn Maldwyn!
Os hoffech ail wylio rhannau o’r diwrnod a ddarlledwyd gan S4C mae modd gwneud ar iPlayer neu Clic.