News

Eisteddfod CFfI Cymru 2023

Pafiliwn Llaethdy Mona ar Faes Sioe Môn oedd cartref Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru eleni. Ar Dachwedd 18fed, croesawodd Ffederasiwn Ynys Môn cystadleuwyr a chefnogwyr ar draws Cymru, deg mlynedd i’r flwyddyn ers i’r Sir westeio’r eisteddfod ddiwethaf.  Bu 750 o gystadleuwyr o 12 ffederasiwn sirol eleni i gymryd rhan mewn digwyddiad a gafodd ei noddi yn garedig gan Castell Howell.   

Cafwyd amrywiaeth o gystadlaethau ar draws adrannau cerddoriaeth, llefaru, ysgafn a gwaith cartref oedd yn cynnwys cystadlaethau ysgrifenedig, celf a ffotograffiaeth. Wedi diwrnod o gystadlu, Sir Gâr a Cheredigion enillodd Tarian Mansel Charles, wedi i’r ddwy sir orffen y diwrnod gyda 43 pwynt dros holl gystadlaethau’r Eisteddfod. Gyda 37 pwynt, daeth Ffederasiwn Meirionnydd yn y trydydd safle.    

Cafwyd seremoni’r cadeirio a choroni llwyddiannus dan adain Feistres y Ddefod, Nia Thomas a’i noddi gan Arfor -Llwyddo’n Lleol. Cafodd y Gadair ei noddi gan FUW eleni a’r Goron ei noddi gan Dŵr Cymru, diolch iddyn nhw. I Eryri aeth cadair hardd wedi’i chreu gan Tomos Jones, gyda Mared Fflur Roberts yn ei hennill eleni am ei cherdd am y testun ‘Milltir Sgwar’. Mae Mared yn aelod o CFfI Dyffryn Madog ac yn ddisgybl lefel A, yn gobeithio mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg flwyddyn nesaf.   

Alaw Fflur Jones o CFfI Felinfach, Ceredigion enillodd y Goron eleni, a chafodd ei chreu gan Helen Evans ‘Blod’. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Aberaeron a Phrifysgol Caerdydd, mae Alaw yn enw cyfarwydd i CFfI Cymru ers bod yn Aelod Iau’r Flwyddyn i’r mudiad ar lefel sirol, Cymru a Chenedlaethol yn 2018/2019.    

Llongyfarchiadau i’r ddwy ddaeth i’r brig!  

Cynhaliwyd seremoni Dysgwr y Flwyddyn eleni hefyd, gyda Daisy Plews, CFfI Ynys Môn yn cael ei gwobrwyo am ei hymdrech i fynd ati i ddysgu Cymraeg a’i ddefnyddio mewn gweithgarwch y mudiad.  

Braf medru rhoi cydnabyddiaeth arbennig i nifer o aelodau buddugol yr Eisteddfod, drwy dlysau arbennig. Diolch i noddwyr cefnogol, cafwyd nifer o dlysau newydd eleni; 3 tlws gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i enillwyr cystadlaethau Unawd 28 neu Iau, Ensemble Lleisiol a Chanu Emyn, hefyd Cwpan Lenora Davies i’r parti llefaru buddugol a chwpan Her D.I.Evans i’r buddugol yn y ddeuawd 28 neu iau.   

Yn dilyn cystadlu safonol drwy gydol y diwrnod, cyflwynwyd Cwpan Ardudwy i’r unawdydd gorau yn yr adran gerddoriaeth i Tomos Heddwyn Griffiths o ffederasiwn Meirionnydd a chwpan CFfI Cymru i Alaw Mair Jones, CFfI Ceredigion am ei pherfformiad yn y gystadleuaeth Monolog a enillodd perfformiad gorau yn yr adran lefaru. Mae Cwpan Joy Cornock yn cael ei chyflwyno i’r unigolyn mwyaf addawol yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod, eleni i Noah Morgan o Frycheiniog aeth y wobr am ei berfformiad ar y drymiau yn yr unawd offerynnol!   

Braf oedd gorffen cystadlu’r diwrnod gyda chwe côr yn canu ‘Rhowch i Mi’, cân a gomisiynwyd gan Catrin Angharad yn arbennig i’r Eisteddfod eleni. Ar ôl cystadleuaeth arbennig, penderfynodd y beirniaid mai Côr CFfI Meirionnydd oedd y côr buddugol eleni, gyda CFfI Ynys Môn yn ail a CFfI Sir Gâr yn drydedd. Yn cipio Tlws Amaethwyr Cymru Dinbych am ennill yr adran Gwaith Cartref oedd Ffederasiwn Eryri a Tharian Elonwy Phillips i’r ffederasiwn buddugol yn y cystadlaethau llwyfan i Ffederasiwn Ceredigion.  

Gwen Edwards oedd Cadeirydd Eisteddfod eleni, sydd yn aelod presennol yn CFfI Rhosybol, Ynys Môn, meddai, “Braint a phleser oedd bod yn Gadeirydd yr Eisteddfod eleni. Roedd hi’n bleser cyd-weithio gyda CFfI Cymru, y pwyllgor a’r aelodau i gynnal chwip o Eisteddfod. Braf oedd gweld aelodau leldled Cymru yn perfformio ar y llwyfan ac yn sicr roedd y safon yn andros o uchel.” 

Hoffai CFfI Cymru ddiolch i bawb wnaeth gyfrannu at wneud yr Eisteddfod yn llwyddiant unwaith eto eleni, boed yn gystadleuwyr, stiwardiaid neu yn gefnogwyr. Diolch yn arbennig i’r beirniaid a’r cyfeilyddion gwych bu mor brysur drwy gydol y diwrnod ac i Bwyllgor Ynys Môn am eu gwaith, cefnogaeth a’u croeso wrth baratoi a chynnal yr Eisteddfod.   

Llongyfarchiadau mawr i Sir Gâr a Cheredigion am ddod yn gydradd enillwyr ar ddiwedd y cystadlu ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod 2024 yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin ar Dachwedd 2ail 2024.  

Mae holl ganlyniadau’r diwrnod bellach ar wefan CFfI Cymru ac mae modd ail-wylio’r cystadlu oedd ar S4C ar Iplayer neu S4C Clic.