Newyddion CFfI Cymru
Diwrnod Hyfforddi Biff Ifanc a Prif Gynhyrchydd Cig Oen
Diwrnod o ddysgu a chodi ‘tips’ oedd hi Ddydd Sul y 9fed o Dachwedd i griw o aelodau’r Mudiad a fynychodd Diwrnod Hyfforddiant ar Fferm Tŷ Isaf gyda Ryan Jones a’i deulu. Daeth y criw at ei gilydd i ddysgu sut mae paratoi at y cystadlaethau’r Biff Ifanc a Prif Gynhyrchydd Wyn yn y Ffair Aeaf. Gyda Ryan yn gyn enillydd y gystadleuaeth Biff Ifanc pwy well byddai ar gael i ysbrydoli’r aelodau sy’n cystadlu eleni a’u hyfforddi.
Dangosodd Ryan sut y byddai’n mynd ati gam wrth gam i baratoi anifail ar gyfer y cylch arddangos, gan ddechrau wrth baratoi ei chot er mwyn medru ei drin yn well, ei sychu yn barod at drimio ag yna sut y byddai yn trimio’r anifail. Wedi iddo gael yr anifail yn barod dangosodd sut byddai disgwyl i’r aelodau arddangos yr anifail yn y cylch. Dangosodd hefyd sut y byddai yn arddangos pâr o wyn yn y cylch arddangos a sut mae gofyn i ddau aelod cydweithio er mwyn medru dangos yr wyn ar eu gorau.
Cyn i’r diwrnod orffen fe ddangosodd enghraifft o’r bwrdd gwybodaeth oedd ganddo a bydd gofyn i bawb sy’n cystadlu i greu bwrdd arddangos i gyd fynd gyda’i llo neu bar o wyn.
Mae’n diolch yn fawr i Ryan a’u deulu am y croeso a gafodd yr aelodau yn Tŷ Isaf ag am rannu ei wybodaeth gyda’r aelodau. Cofiwch alw draw i linellau’r Gwartheg a’r Wyn yn y Ffair Aeaf er mwyn gweld a chefnogi’r aelodau a fydd yno yn cystadlu.








