Newyddion

Diwrnod Chwaraeon 2024 

Ar ddydd Sul 16eg o Fehefin 2024, teithiodd aelodau o bob cwr o Gymru i Aberhonddu i gystadlu yn Niwrnod Chwaraeon CFfI Cymru. Dechreuodd y bore gyda Phêl-droed 5-bob ochr y dynion, a oedd yn cael ei ddyfarnu gan Anthony Turner o Glwb Pêl-droed Iau Llanfair-ym-Muallt. Gwelodd y cae chwarae gemau o’r un safon a’r Ewros, gyda bore o bêl-droed gwefreiddiol. Yn y diwedd, Ceredigion a sgoriodd ei  ffordd i fuddugoliaeth, gyda Maesyfed yn cipio’r ail safle a Maldwyn yn gorffen yn y trydydd safle.  

Yn y cyfamser, roedd Sarah Lewis, Llywydd CFfI Cymru yn cadw llygad barcud ar y Rownderi Iau. Roedd ‘na fatio a maesu gwych yn cael eu harddangos gan bob tîm, ond yn y diwedd, Maldwyn ddaeth yn fuddugol, gyda Cheredigion yn ail a Brycheiniog yn drydydd. 

Camp newydd ar gyfer eleni oedd y Criced ‘Dynamo’,  a ddyfarnwyd gan Terry Dickson. Brwydrodd dau dîm gwych gyda dros 40 pêl yr un, gyda champwaith clodwiw yn cael ei arddangos gyda’r canlyniad yn rhai agos iawn. Ceredigion  gipiodd y fuddugoliaeth gyda Brycheiniog yn ail.  

Ychwanegiad newydd arall eleni oedd cystadleuaeth Pêl-foli Gymysg ar gyfer aelodau hŷn. Diolchwn i Glwb Pêl-foli Aberhonddu am ei chefnogaeth ac am ddarparu’r rhwyd, ac i Jayne Jones o Glwb Pêl-foli Caerdydd a fu’n dyfarnu’r gemau. Cafodd yr aelodau tipyn o hwyl yn yr heulwen, yn blocio a bwrw’r bel wrth iddynt frwydro am y safle cyntaf. Wedi ambell i gêm wefreiddiol, Brycheiniog a foliodd eu ffordd i fuddugoliaeth, gyda Maldwyn yn ail a Sir Benfro’n drydydd.

Dychwelwyd y gystadleuaeth Bêl-rwyd i Ferched am flwyddyn arall. Gyda saethu ac amddiffyn gwych, roedd yn amlwg o’r cychwyn y byddai’r twrnamaint yn un o’r radd flaenaf! Yn y diwedd Brycheiniog hawliodd fuddugoliaeth, gyda Maldwyn yn ail a Gwent yn drydydd. Diolch i Carys Ricketts am feirniadu’r gemau hyn i ni. 

Gyda phum camp wedi dod i ben, roedd hi’n bryd symud draw i’r Trac Athletau i fwynhau’r amrywiaeth o gystadlaethau rhedeg. O bellter hir i sbrintiau, yn ogystal â’r rasys cyfnewid, roedd rhywbeth at ddant pawb. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r cystadleuwyr a gymerodd ran. 

Gwych oedd gweld cymaint o sgiliau chwaraeon yn cael eu harddangos drwy gydol y dydd, a da iawn i bawb a gystadlodd. Diolch hefyd i bawb a gefnogodd y diwrnod a sicrhau ei bod hi’n un lwyddiannus. Mae canlyniadau’r diwrnod a’r oriel lawn ar gael ar wefan CFfI Cymru.