Newyddion CFfI Cymru

Diweddariad gan CFfI Cymru

Mae’r sioe bob amser yn un o’r prif uchafbwyntiau i lawer o aelodau o bob rhan o Gymru ac ni fydd 2023 yn eithriad. Gyda rhaglen gystadlaethau llawn dop yn rhoi cyfleoedd i aelodau ddatblygu sgiliau a chwrdd â ffrindiau o bob rhan o Gymru, mae’r sioe yn nodwedd gyffrous arall i galendr y CFfI. Mae’r penderfyniad wedi’i wneud i beidio â rhedeg y Pentref Ieuenctid a rhoi holl ffocws y sefydliadau ar y cyfleoedd y mae’r sioe yn ei gynnig. Trwy gystadleuaethau, Materion Gwledig, cymdeithasu a datblygu partneriaethau, mae’r mudiad yn gobeithio ffynnu ac yn gyffrous i groesawu aelodau i’r Sioe Frenhinol.

Dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Hefin Evans:

“Dyma benderfyniad nad yw’r sefydliad wedi’i wneud yn ysgafn. Mae llawer o feddwl a thrafod wedi digwydd gyda’n haelodau drwy’r prosesau democrataidd sydd ar waith. Mae’r argyfwng costau byw, costau tanwydd cynyddol, costau llogi offer wedi cael effaith aruthrol ar y costau isadeiledd gan ei gwneud yn amhosibl i’r sefydliad ei wneud yn opsiwn ymarferol. Rhaid inni edrych ar y darlun ehangach a diogelu dyfodol ein sefydliad. Edrychwn ymlaen at y sioe gyda llechen ffres ac yn gyffrous i groesawu aelodau i’r Ganolfan CFfI.”