Newyddion

DIWEDDARIAD CORONAFIRWS

Dydd Llun, cyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson fesurau newydd sylweddol yn ymwneud a Covid-19 a chynghori pobl Prydain i weithio o adre lle boed hynny yn bosib, osgoi llefydd fel tafarndai, clybiau a theatrau ac osgoi teithio heb angen.

O ganlyniad i’r cyngor hwn, bydd holl gyfarfodydd a gweithgareddau Cymru, sir a chlwb yn cael eu canslo neu eu gohirio am y 12 wythnos nesaf.

Ar hyn o bryd mae swyddogion a staff CFfI Cymru yn paratoi cynllun gweithredu i alluogi pob aelod o staff i weithio’n rhagweithiol o adref. O ganlyniad rydym yn croesawu unrhyw bryderon neu ymholiadau trwy e-bost neu i ffonau symudol staff neu i linell ailgyfeirio’r CFfI, 01982 553502.

Hoffem sicrhau aelodau, swyddogion, gwirfoddolwyr a chefnogwyr y mudiad ein bod yma i chi ac y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ddatblygiadau ac i gadw moral yn uchel yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.