Blog yr Aelodau

“Diolch i CFfI Cymru am y cyfle i deithio, gwneud ffrindiau newydd a chreu atgofion diddiwedd ar hyd y ffordd.”

Fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Arweinydd y Tîm, Angharad Davies i glywed popeth am eu profiad yng Nghorc! Cefnogwyd y daith hon yn garedig gan Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.

Ar yr 8fed o Awst, fe wnes i a 7 aelod arall o CFfI Cymru gwrdd yn Maes Awyr Birmingham ar ôl teithio  o bob cwr o Gymru. Dyma’r  tro cyntaf i  rhai aelodau gwrdd, ac roedd yn hyfryd gweld aelodau  oedd wedi teithio gyda CFfI Cymru o’r blaen ac aelodau yn teithio am y tro cyntaf yn dechrau rhannu eu disgwyliadau am y daith. Fe wnaethon ni fynd tuag at giât 3 ar gyfer ein awyren i Corc. Roedd y daith yn 50 munud fer ar draws Môr Iwerddon  cyn i ni  lanio yng Nghorc. Ein sialens  gyntaf unwaith i ni gyrraedd Corc oedd ffeindio  y ceir hurio oedd wedi eu harchebu i ni ddefnyddio ar gyfer y daith. Cymerodd hyn ychydig o amser ond yn y pen draw fe wnaethon ni adael y maes awyr mewn dau gar a mynd i’r gwesty  oedd wedi’i leoli yng nghanol dinas Corc.

Gan nad oedd ymweliadau fferm wedi’u cynllunio ar gyfer y prynhawn Dydd  Iau, fe wnaethon ni fynd o gwmpas dinas Corc i weld  rhai o’r golygfeydd cyn gwneud ein ffordd i fwyty Eidalaidd ar gyfer swper. Rwy’n siŵr y byddai pawb yn cytuno â mi fod y bwyd yn flasus iawn. Cyn mynd yn ôl i’r gwesty, fe wnaethon ni stopio mewn bar Gwyddelig.

Cyrhaeddodd fore Gwener yn fuan, gadawsom y gwesty i ddod o hyd i’r ceir a chychwyn ein taith i’r gogledd tuag at ‘North Cork Creameries’.  Roess hon yn ymweliad diddorol iawn. Dechreuodd yr ymweliad  gyda chyflwyniad am hanes ‘North Cork Creameries’ yn cwmpasu popeth o’r dechrau hyd heddiw. Dysgom fod hufenfa Corc wedi ei sefydlu yn 1928 ac mae’n gwmni cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr sy’n cynhyrchu bron i 3,000,000 litr o laeth y flwyddyn. Roedd yr hufenfa yn cynhyrchu llawer mwy o gynhyrchion nag yr oeddem yn ei ddisgwyl, roeddem yn disgwyl gweld llaeth a menyn yn cael eu cynhyrchu ond ychydig a wyddem fod “North Cork Creameries” ychydig yn wahanol. Roeddent hefyd yn gyfleuster sychu llaeth yn cynhyrchu ystod eang o bowdrau llaeth a phowdrau maidd. Pan wnaethom ymweld â’r ffatri sychu, sylweddolom yn fuan fod y gwres oedd ei angen i gynhyrchu powdr llaeth yn annioddefol. Mewn ffatri gynhyrchu arall gwelsom y cwmni’n cynhyrchu Casein. Roedd hwn yn ffatri gynhyrchu drawiadol yn cael ei gweithredu’n bennaf gan dechnoleg ac roedd y cynnyrch gorffenedig yn cael ei bagio gan robot awtomataidd. Cyn gadael tref hardd Kanturk cawsom fwyd mewn tafarn fach. Cyn cyrraedd y  fferm nesaf, aethom i weld adfeilion Castell Kanturk.

Yr arhosfan nesaf oedd ymweliad â fferm “Glen South”, gwnaeth y fferm hanes yn 2014 pan ddaethon nhw’n fferm orffen Cig Eidion gyntaf yn Ewrop i osod bwydwr Lelly robotig. Y cam hwn oedd sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posibl mewn pryd gyda’r gobaith y byddai’r defnydd o fwyd ffres yn sicrhau cyfraddau twf da ac ennill pwysau byw dyddiol cyson i’r gwartheg. Pan ymwelon ni â fferm “Glen South”, cawsom ein rhyfeddu gan y glendid a’r blaenfeddwl oedd gan y fferm hon. Yn y sied fodern hon, roedd ganddynt y gallu i ddal 1500 o anifeiliaid storio, wrth i ni ymweld yn ystod misoedd yr haf roedd rhan fwyaf o’r gwartheg allan yn cael eu bwydo ar laswellt. Yn y sied gwelsom wartheg a oedd yn agos at y pwysau gorffen  a stoc ifanc a brynwyd oedd yn cael eu paratoi i gael eu troi allan i laswellt ar gyfer diwedd yr haf. Tra roedden ni yno, dechreuodd y bwydwr Lely Vector baratoi’r dogn nesaf ar gyfer y gwartheg. Roedd fel dim byd roedden ni wedi’i weld o’r blaen gyda braich robotig yn codi silwair o’r ‘gegin’ cyn ei gario drosodd i’r robot lle ychwanegwyd bwyd ‘concentrate’ cyn pwyso a mesur i’r robot ei gymysgu cyn gwneud ei ffordd o amgylch y sied i gludo’r bwyd. Ar ôl diwrnod hir o ymweliadau, fe wnaethon ni fynd yn ôl i Corc lle gwnaethon ni fwyta yn nhafarn Dwyer gyda cherddoriaeth Wyddelig fyw yn chwarae drwy’r nos.

Bore Sadwrn, roeddem ar ein ffordd i’r gorllewin o Corc i ymweld â Tony Murphy, ffermwr organig 3edd genhedlaeth. Cawsom weld ei fuches o fuchod sugno, praidd o ddefaid a chnydau yr oedd yn eu tyfu. Eglurodd pa systemau a ddefnyddiodd o dan y cynllun organig a’r manteision a welodd o fod yn organig. Gan fod y tywydd yn fendigedig yn ystod y prynhawn fe benderfynon ni fynd tua’r De tuag at y traeth, cyn i ni gyrraedd y traeth, fe wnaethon ni ymweld â Bragdy a Distyllfa y Crysau Duon o Kinsal. Wedi’i sefydlu yn 2013 ar yr aber. Ar ôl i ni gyrraedd Kinsale a’i wneud i’r traeth roedd hufen iâ yn hanfodol wrth i ni fwynhau haul y prynhawn. Gan mai nos Sadwrn oedd ein noson olaf fe benderfynon ni cael stêc, cawsom wledd gyda bwyd bendigedig.

Daeth bore Sul yn fuan, ac roedd hi’n bryd mynd yn ôl tuag at faes awyr Corc, gyda hediad byr yn ôl i Birmingham, roedd y daith wedi hedfan heibio, ac roedd hi’n bryd i bawb fynd yn ôl i bedwar ban Cymru.

Hoffem ddiolch i’r holl ffermydd a busnesau yr ymwelwyd â nhw yng Nghorc a diolch i CFfI Cymru am y cyfle i deithio, gwneud ffrindiau newydd a chreu atgofion diddiwedd ar hyd y ffordd.