Newyddion CFfI Cymru
Dathliad Cymreig CFfI Cymru
Am y tro cyntaf erioed, cynhaliwyd derbyniad Cymreig i ddathlu ein diwylliant a’n defnydd o’n hiaith o fewn y mudiad. Pleser oedd edrych nôl dros y flwyddyn ddiwethaf ac adnabod effaith gadarnhaol gweithredoedd y mudiad ar y Gymraeg ac edrych ymlaen am ddilyniant ffyniant yr iaith o fewn y mudiad. Buom yn ffodus i gael cwmni Caryl Jones, aelod o bwyllgor Eisteddfod CFfI Cymru 2024, Daisy Plews, Dysgwr y flwyddyn 2023/24, Olwen Jones, enillydd gwobr Calondid a Carys Thomas, Trefnydd Sir Gar yn y digwyddiad gyda Rhys Richards, Cadeirydd CFfI Cymru yn arwain y derbyniad.
Wrth edrych dros y flwyddyn ddiwethaf hyfryd oedd dathlu llwyddiant Eisteddfod CFfI Cymru yn Ynys Môn gyda bron i 600 o aelodau yn cystadlu. Gwelwyd torf enfawr yn mynychu’r digwyddiad gyda llawer mwy yn gwylio o adref gyda S4C yn darlledu doniau pobol ifanc cefn gwlad Cymru. Roedd y derbyniad yn gyfle gwych i lansio rhaglen Eisteddfod CFfI 2024, gyda Caryl Jones, aelod o bwyllgor Eisteddfod CFfI Cymru ac Is-Gadeirydd Sir Gar yn mantiesio ar y cyfle i hyrwyddo’r rhaglen.
Pleser oedd cael cwmni Daisy (enillwr Dysgwr y Flwyddyn) ac Olwen (enillydd Gwobr Calondid) yn ystod y digwyddiad. Roedd clywed y ddwy yn sôn am eu profiadau a gweld eu hangerdd dros yr iaith Gymraeg yn ysbrydoliaeth. Rydym ni fel mudiad yn hynod lwcus i gael aelodau ac arweinwyr mor frwdfrydig a gweithgar sy’n diogelu a brwydro dros ein hiaith. Cyhoeddodd y ddwy fod y cystadlaethau Dysgwr y Flwyddyn a Gwobr Calondid ar agor nawr ar gyfer 2024/25, felly os hoffech chi enwebu rhywun, neu eich hun, cliciwch ar y lincs isod.
Datblygiad cyffrous arall o’r flwyddyn ddiwethaf yw ein cwrs ysgrifennu sy’n cael ei arwain gan Anni Llyn a Bethan Gwanas gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau. Hyfryd yw gweld aelodau yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu ac rydym yn falch i gyhoeddi cwrs ysgrifennu undydd yn Nhŷ Newydd ar y 8fed o Fedi 2024. Os oes diddordeb genych, cysylltwch ag Elliw trwy: swyddogcymraeg@yfc-wales.org.uk.
Roedd y Sioe yn wythnos brysur, llawn cystadlu a chymdeithasu a gwych oedd clywed fod trip i Batagonia wedi cael ei gyhoeddi yn Derbyniad Rhyngwladol. Buodd aelodau hefyd yn brysur yn gwneud ‘takeover’ ar dudalen Instagram Comisynydd y Gymraeg i ddathlu Cymreictod ar draws y Sioe.
I orffen y derbyniad cyflwynodd Carys, Trefnydd Sir Gâr dau fideo newydd fel rhan o brosiect Arfogi Arfor. Mae’r fideos yn dilyn aelodau o CFfI Sir Gâr ac yn dangos cyfleoedd i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg yng ngefn gwlad Cymru. Maent yn atgyfnerthu neges bwerus bod modd i bobol fyw a ffynnu trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn hynod o falch fod CFfI yn rhan anatod o hyn.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch am bob unigolyn, grŵp a mudiad sydd wedi cefnogi ni dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n bleser fod yn rhan o fudiad sy’n chwarae rhan mor allweddol mewn datblygiad pobol ifanc cefn gwald Cymru ac un sy’n diogelu ein hiaith a’n diwylliant. Rydym yn hynod ddiolchgar am bob cefnogaeth.