Ynglŷn â’r Cynllun

Nod y cynllun yw annog aelodau i fagu, gorffen a dangos moch. Bydd aelodau’r CFfI yn gwneud cais am y cynllun drwy broses ymgeisio a chyfweld. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cymorth a hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu, rheoli a datblygu eu menter newydd.  

Pam y dylech chi gymryd rhan?

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu a datblygu’r hanfodion sydd eu hangen i redeg menter moch lwyddiannus.