Newyddion

Cynnig hyfforddiant unigryw British Wool ar gyfer ffermwyr ifanc – cefnogi’r genhedlaeth nesaf:

Mae cefnogi hyfforddiant a datblygiad y genhedlaeth nesaf o gneifwyr a thrinwyr gwlân yn hanfodol i sicrhau sector defaid ffyniannus yn y DU ynghyd a sicrhau’r safonau uchaf.

Mae British Wool a ffederasiynau cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi mwynhau perthynas gref ac wedi cydweithio mewn llawer o wahanol feysydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys cynnig hyfforddiant i aelodau CFfI am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae’r cwrs cneifio i ddechreuwyr, sef un agwedd ar gael drwy’r cynnig, yn galluogi aelodau CFfI i weithio tuag at wobr ‘Blue Seal’. Bydd y cwrs dros ddau ddiwrnod, yn cwmpasu’r holl agweddau hanfodol i gyflawni tymor cneifio llwyddiannus, gan gynnwys iechyd a diogelwch, defnyddio offer cneifio ac ymarfer cneifio ymarferol i ddatblygu’ch techneg.

Mae’r cynnig British Wool  hwn yn agored i aelodau CFfI sydd heb fynychu cwrs cneifio British Wool o’r blaen. Y pris unigryw y bydd aelodau CFfI yn ei dalu am y cynnig hyfforddiant hwn yw £96 (gan gynnwys. TAW) – cost arferol y cwrs hwn fyddai £210.

Mae cyflwyniad cnu rhagorol yn dechrau wrth gneifio ond yr un mor bwysig yw gwaith y trinwr gwlân wrth sicrhau bod y gwlân yn cael ei gyflwyno’n gywir ac i safon uchel. Felly mae British Wool hefyd yn ehangu ei gynnig hyfforddiant i aelodau CFfI i gymryd rhan yn ei gwrs trin gwlân. Bydd y cwrs undydd hwn yn cael ei ddarparu gan drinwr gwlân cystadleuol llwyddiannus am bris gostyngedig o ond £60 (gan gynnwys TAW) i aelodau CFfI.

Dywedodd Richard Schofield, Rheolwr Cneifio, British Wool: “Rydyn ni wrth ein bodd unwaith eto yn gweithio gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc i roi’r cynnig unigryw hwn ar gyfer ein cyrsiau cneifio a thrin gwlân i ddechreuwyr. Yn dibynnol ar gyfyngiadau Covid, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ffermwyr ifanc ar ein cyrsiau eto eleni a byddem yn annog unrhyw aelod o CFfI sydd â diddordeb i gysylltu â chydlynydd rhanbarthol British Wool ar gyfer eu hardal cyn y dyddiad cau sef 31ain o Fawrth. ”

Cymhwyster:

I fod yn gymwys ar gyfer y cyrsiau gostyngedig, rhaid i’ch aelodaeth CFfI fod yn gysylltiedig ag un o’r ffederasiynau cenedlaethol Cymru, Lloegr a’r Alban, ac ni ddylech fod wedi mynychu cwrs cneifio na thrin gwlân British Wool o’r blaen.

Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2021

Bydd pob Cwrs a gynhelir yn dibynnu ar gyfyngiadau Covid

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru’ch diddordeb, cysylltwch â:

Lloegr:                                                                     Cymru:

Alison Gould                                                              Sasha Ashton

01647 24804                                                               01686 626811

alisongould@britishwool.org.uk sashaashton@britishwool.org.uk  

Yr Alban:

Richard Schofield

01294 229000 / 07966 291618

richardschofield@britishwool.org.uk