CYNHYRCHYDD STOC Y FLWYDDYN


2025 – GWERN THOMAS

Ar hyn o bryd mae Gwern yn ffermio ar fferm Maesllyn, Tregaron, mewn partneriaeth ffermio contract gyda’i ewythr Ifan Davies. Tan yn ddiweddar mae’r fferm wedi cael ei redeg fel system organig mewnbwn isel, roedd hyn yn bennaf oherwydd bod angen lleihau llafur gan fod ei ewythr yn brysur gydag ymrwymiadau eraill. Mae Gwern yn ddiolchgar iddo gael y cyfle i ffermio ochr yn ochr â’i ewythr gan nad yw o gefndir ffermio ond mae ffermio wastad wedi bod yn freuddwyd iddo. Ar ôl ychydig flynyddoedd o weithio ar ffermydd lleol a dysgu am wahanol systemau, roedd yn teimlo ei fod yn barod i ymgymryd â’r her hon. Ar ôl edrych ar y system bresennol ym Maesllyn fe welodd gyfleoedd i wella ar unwaith ac roedd symud i ffwrdd o ffermio organig yn un o’r rheiny. Ar hyn o bryd maent yn rhedeg 450 o ddefaid magu Cymreig a 45 o wartheg sugno Saler. Yn ei amser hamdden, mae Gwern a’i ddyweddi Ffion, yn ffermio 40 erw o dir ar ddaliad arall lle maen nhw’n magu mamogiaid Blueface Leicster pedigri i fagu hyrddod ac maen nhw hefyd yn magu 15 o loi bwced y flwyddyn ac yn eu gwerthu tua 24 mis oed. Ei nod un diwrnod yw gallu prynu fferm ei hun a’i nod hyd at hynny yw adeiladu ecwiti ac ennill cymaint o brofiad â phosibl.


2024 – ARON DAFYDD

Mae Fferm Gwarffynnon yn gartref i 130 o wartheg pedigri Holstein. Fe wnaeth Aron ddychwelyd i Fferm Gwarffynnon 5 mlynedd yn ôl ar ôl astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Erbyn hyn, mae Aron yng ngofal gweithgareddau dyddiol y fferm gan gynnwys y godro a gwaith bob dydd i gynllunio deiet y gwartheg. Yn 2020 gwnaeth buches Ormond ennill y teitl o’r prif bridiwr. Mae bod mor agos a phosib i fod yn hunangynhaliol yn bwyslais mawr i Fferm Gwarffynnon. Mae’r fferm eisioes yn cynhyrchu egni gwyrdd gyda melin wynt, paneli solar a system pwmpio gwres ffynhonnell aer. Mae Aron a’i Dad Dai wedi gweld mantais economaidd i hyn yn ogystal â chreu fferm gyfeillgar i’r hinsawdd heb aberthu safon y cynnyrch. Yn 2020 fe wnaeth Aron adnabod yr angen am gynnyrch lleol o safon uchel ac wedi creu uned basteureiddio bwrpasol ar y fferm i brosesu llaeth ac yna ei werthu yn lleol yng nghanol Llanbed a Llwyncelyn drwy beiriant hunan wasanaeth.