Enillydd 2023 – Aron Dafydd

Mae Fferm Gwarffynnon yn gartref i 130 o wartheg pedigri
Holstein. Fe wnaeth Aron ddychwelyd i Fferm Gwarffynnon 5
mlynedd yn ôl ar ôl astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol
Aberystwyth. Erbyn hyn, mae Aron yng ngofal gweithgareddau
dyddiol y fferm gan gynnwys y godro a gwaith bob dydd i
gynllunio deiet y gwartheg. Yn 2020 gwnaeth buches Ormond
ennill y teitl o’r prif bridiwr. Mae bod mor agos a phosib i fod yn
hunangynhaliol yn bwyslais mawr i Fferm Gwarffynnon. Mae’r
fferm eisioes yn cynhyrchu egni gwyrdd gyda melin wynt, paneli
solar a system pwmpio gwres ffynhonnell aer. Mae Aron a’i Dad
Dai wedi gweld mantais economaidd i hyn yn ogystal â chreu
fferm gyfeillgar i’r hinsawdd heb aberthu safon y cynnyrch. Yn
2020 fe wnaeth Aron adnabod yr angen am gynnyrch lleol o
safon uchel ac wedi creu uned basteureiddio
bwrpasol ar y fferm i brosesu llaeth ac yna ei werthu yn lleol yng nghanol Llanbed a
Llwyncelyn drwy beiriant hunan wasanaeth.