Newyddion

CYNHADLEDD MATERION GWLEDIG I YSBRYDOLI’R GENHEDLAETH NESAF

Bydd CFfI Cymru yn cynnal eu Cynhadledd Materion Gwledig blynyddol y dydd Sadwrn hwn diolch i gefnogaeth hael Clynderwen and Cardiganshire Farmers (C.C.F Ltd). 

Bydd y digwyddiad undydd yn cael ei gynnal dydd Sadwrn 11eg Ionawr 2020 rhwng 10yb a 4yp yn IBERS Gogerddan, Aberystwyth ac mae’n agored i aelodau a ffrindiau CFfI Cymru.

Thema’r gynhadledd yw ‘Rheoli Pridd a Glaswelltir’ ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod draw i ymuno â CFfI Cymru i glywed gan gyfoeth o siaradwyr ysbrydoledig.

Mae siaradwyr cynhadledd 2020 yn cynnwys;

Dr Iwan Owen, Prifysgol Aberystwyth;

Chris Duller, Cyswllt Ffermio;

Rhidian Glyn, Ennillydd Gwobrau Amaethyddol Prydeinig 2019;

Charlie Morgan, Grassmaster Cyf a

Alex Higgs Tyfu Cymru.

Bydd dwy sesiwn torri allan yn cael eu hymgyrffori yn y diwrnod; gweithdy gyda Dŵr Cymru a taith o amgylch IBERS.  Bydd y gynhadledd hefyd yn westeiwr i gyflwyniad yr Academi Amaeth Iau, 2019.

Wrth siarad cyn y gynhadledd nododd Non Williams, Is-gadeirydd y pwyllgor Materion Gwledig;

“Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau o bob cwr o Gymru atom i Aberystwyth ar gyfer ein Cynhadledd Materion Gwledig blynyddol.”

Mae thema’r gynhadledd eleni, sef ‘Rheoli Pridd a Glaswelltir’ yn bwnc tu hwnt o berthnasol i bob ffermwr ifanc, gyda phridd yn un o adnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr y sector amaethol. Byddwn yn hynod ffodus o gael trawstoriad o siaradwyr gwadd gwybodus gyda ni er mwyn arwain trafodaethau ar bynciau cyfredol yn ogystal â gweithdy a thaith fferm.

Diolchwn i CCF am eu cefnogaeth barhaus a’u hymrwymiad i’r genhedlaeth nesaf”.

Os hoffech chi fynychu’r gynhadledd ac er mwyn cadw’ch lle, ewch i wefan CFfI Cymru https://cffi.cymru/events/cynhadledd-materion-gwledig/; e-bostio gwybodaeth@yfc-wales.org.uk neu ffonio 01982 553502.