Newyddion CFfI Cymru
CYNHADLEDD MATERION GWLEDIG I YSBRYDOLI’R GENHEDLAETH NESAF
Bydd CFfI Cymru yn cynnal eu Cynhadledd Materion Gwledig blynyddol y dydd Sadwrn hwn diolch i gefnogaeth hael Clynderwen and Cardiganshire Farmers (C.C.F Ltd).
Bydd y digwyddiad undydd yn cael ei gynnal dydd Sadwrn 11eg Ionawr 2020 rhwng 10yb a 4yp yn IBERS Gogerddan, Aberystwyth ac mae’n agored i aelodau a ffrindiau CFfI Cymru.
Thema’r gynhadledd yw ‘Rheoli Pridd a Glaswelltir’ ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod draw i ymuno â CFfI Cymru i glywed gan gyfoeth o siaradwyr ysbrydoledig.
Mae siaradwyr cynhadledd 2020 yn cynnwys;
Dr Iwan Owen, Prifysgol Aberystwyth;
Chris Duller, Cyswllt Ffermio;
Rhidian Glyn, Ennillydd Gwobrau Amaethyddol Prydeinig 2019;
Charlie Morgan, Grassmaster Cyf a
Alex Higgs Tyfu Cymru.
Bydd dwy sesiwn torri allan yn cael eu hymgyrffori yn y diwrnod; gweithdy gyda Dŵr Cymru a taith o amgylch IBERS. Bydd y gynhadledd hefyd yn westeiwr i gyflwyniad yr Academi Amaeth Iau, 2019.
Wrth siarad cyn y gynhadledd nododd Non Williams, Is-gadeirydd y pwyllgor Materion Gwledig;
“Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau o bob cwr o Gymru atom i Aberystwyth ar gyfer ein Cynhadledd Materion Gwledig blynyddol.”
Mae thema’r gynhadledd eleni, sef ‘Rheoli Pridd a Glaswelltir’ yn bwnc tu hwnt o berthnasol i bob ffermwr ifanc, gyda phridd yn un o adnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr y sector amaethol. Byddwn yn hynod ffodus o gael trawstoriad o siaradwyr gwadd gwybodus gyda ni er mwyn arwain trafodaethau ar bynciau cyfredol yn ogystal â gweithdy a thaith fferm.
Diolchwn i CCF am eu cefnogaeth barhaus a’u hymrwymiad i’r genhedlaeth nesaf”.
Os hoffech chi fynychu’r gynhadledd ac er mwyn cadw’ch lle, ewch i wefan CFfI Cymru https://cffi.cymru/events/cynhadledd-materion-gwledig/; e-bostio gwybodaeth@yfc-wales.org.uk neu ffonio 01982 553502.