Newyddion CFfI Cymru

Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru 2025 – ‘Mentro ar Lwyddiant’

Bydd CFfI Cymru yn cynnal ei Cynhadledd Amaeth blynyddol a Gwobrau Amaeth ar Fferm Rosedew, Llanilltud Fawr ddydd Sadwrn yr 11eg o Ionawr 2025. Edrychwn ymlaen at groesawi 5 o siaradwyr gwadd a fydd yn rhoi eu mewnbwn ar y testun ‘Mentro ar Lwyddiant’. Jeff Evans, aelod o fwrdd CCF fydd yn cadeirio’r Gynhadledd. Y siaradwyr eleni fydd Nina Pritchard, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Marchnadoedd Ewropeaidd McDonald’s, Neil Burchell, Mentor i Lywodraeth Cymru gyda Rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru, Emily Davies, Rheolwr-olygydd Just Farmers, Rhodri Davies o Rosedew Farm, a Lauren Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufen Iâ Fablas.

Yna bydd y gynhadledd yn torri am ginio lle bydd aelodau a chefnogwyr yn mwynhau rhost mochyn am ddim gan y Spitting Pig Company.

Yn ystod y prynhawn bydd y mynychwyr yn cael eu rhannu mewn i 4 sesiwn ymneilltuo. The Spitting Pig Company fydd yn cyflwyno’r sesiwn cyntaf trwy roi cipolwg ar eu cwmni arlwyo sy’n arbenigo mewn coginio awyr agored. Bydd yr ail sesiwn yn cael ei arwain gan Dawie Beyers, Rheolwr Gweithredol Farmers Pantry, lle bydd yn rhoi cipolwg craff i’r aelodau ar yr hyn sy’n gwneud Farmers Pantry yn arweinydd mewn cynhyrchu bwyd lleol, cynaliadwy. Bydd Bwyd a Diod Cymru yn arwain y drydedd sesiwn ar y testun ‘Creu brand o’r dechrau – rhai meddyliau a syniadau am gychwyn busnes yn y sector bwyd a diod’. Bydd y bedwaredd sesiwn a’r sesiwn olaf yn cael ei harwain gan Kirsty Tamilia, Arbenigwr Lloi a Stoc Ifanc gyda CCF.

Yn dilyn y sesiynau grŵp bydd Rural Advisors yn lansio Cystadleuaeth Arloesi Busnes Gwledig 2025 lle bydd gan aelodau CffI Cymru’r cyfle i ennill gwerth £1000 o gymorth a chyngor busnes.

I gloi’r gynhadledd bydd y ffermwr a seren y cyfryngau cymdeithasol Ioan Humphreys @that_welsh_farmer yn siarad am ei angerdd am ffermio, sut dechreuodd ei sianel a sut mae’n defnyddio ei lwyfan i annog ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn Amaethyddiaeth. Bydd yn pwysleisio pam bod diogelwch fferm yn bwysig: i amddiffyn bywydau, bywoliaeth, a sicrhau llwyddiant hirdymor amaethu. Mi fydd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl, lles a ffitrwydd corfforol wrth ein paratoi ni ar gyfer yr heriau ar y fferm.

Mae dal amser i ymuno â ni ar gyfer Cynhadledd Amaeth 2025. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn rhad ac am ddim. I archebu tocynnau, ewch i siop ar-lein CFfI Cymru neu cliciwch ar y botwm isod.

Yn dilyn y gynhadledd bydd y Noson Gwobrau Amaeth yn cymryd lle, bydd 12 aelod sydd wedi’u henwebu ar gyfer 6 gwobr yn mynychu a bydd enillydd bob gwobr yn cael ei datgelu. Y chwe gwobr sydd ar gael eleni yw:

Cynhyrchydd Stoc y Flwyddyn a noddir yn garedig gan Kepak

Gwobr Arallgyfeiried Gorau a noddir yn garedig gan Mentera

Gwobr Pencampwr Gwledig a noddir yn garedig gan CCF

Gwobr Rheoli Glaswelltir Gorau a noddir yn garedig gan Germinal

Gwobr Stocmon Llaeth Cynaliadwy a noddir yn garedig gan Leprino Foods

Pencampwr Iechyd Meddwl a noddir yn garedig gan y Samariaid a Sefydliad DPJ

Llongyfarchiadau i’n tri ar ddeg sydd yn y rownd derfynol, Ryan Jones o CFfI Brycheiniog, Gwern Thomas, Emily Williams a Chlwb Ffermwyr Ifanc Trisant o CFfI Ceredigion, Ethan Williams a James Anstey o CFfI Morgannwg, Frances Evans ac Iwan Owen o CFfI Sir Gaerfyrddin, Daniel Williams o CFfI Ynys Môn, Sian Lewis ac Elin Lewis o CFfI Maldwyn, Ella Harris o CFfI Maesyfed a William Meadmore o CFfI Gwent. Hoffai CFfI Cymru ddymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol.

Ddim yn gallu dod i’r Gwobrau Amaeth? Peidiwch â phoeni, gallwch ei gefnogi trwy gymryd rhan yn ein raffl ar-lein. Mae CFfI Cymru wedi bod yn hynod ffodus i dderbyn 19 gwobr anhygoel gan fusnesau a sefydliadau. Bydd y raffl yn cael ei thynnu yng Ngwobrau Amaeth CFfI Cymru nos Sadwrn 11eg Ionawr. Bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu rhwng yr elusen a ddewiswyd eleni British Heart Foundation a CFfI Cymru. Gellir prynu tocynnau ar-lein 👉🏼 Raffle – Cynhadledd Amaeth CFFI Cymru – Wales YFC AGRI Conference

Ar ddydd Sul 12 Ionawr 2025 i orffen y penwythnos, bydd yr aelodau yn mynd ar daith fferm o amgylch Fferm Pancross ym Morgannwg.

Mae Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru yn hynod ddiolchgar am bob noddwr sy’n helpu i wneud y gynhadledd yn bosibl, yn enwedig y gefnogaeth a dderbyniwyd gan CCF ac Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.