News

Cynhadledd Amaeth a Gwobrau Amaeth CFfI Cymru

Dychwelodd cynhadledd 2024 fel digwyddiad mwy gyda chyflwyniad y Gwobrau Amaeth newydd. Denodd y penwythnos dros 80 o aelodau a ffrindiau i’r gynhadledd, 120 o aelodau a chefnogwyr i’r Gwobrau Amaeth ac ymwelodd bron i 50 o aelodau â Fferm Brongain.

Ar ddydd Sadwrn 13 Ionawr 2024 agorwyd Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru a gynhaliwyd yn Neuadd Gregynog ar y thema ‘Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy’. Yn y gynhadledd clywyd gan bedwar siaradwr sef Mr Arwel Owen (Genus), Miss Leah Meirion Davies (aelod o CFfI Clwyd ac Ysgolor Elwyn Jones), Mr James Nixon (Cig Eidion a Chig Oen Cymreig Penmincae) a Rachel Madeley Davies (HCC) yn trafod gwahanol agweddau ynglŷn â chadwyni cyflenwi o eneteg, bridio, prosesu, manwerthu ac ychwanegu gwerth.

Cynhaliwyd tair sesiwn grŵp yn y prynhawn gan CCF, HCC a Rural Advisor a lansiwyd Cystadleuaeth Arloesi Busnes Gwledig newydd i annog entrepreneuriaid newydd o fewn CFfI Cymru.

2024 oedd blwyddyn gyntaf y Gwobrau Amaeth gan fod y Pwyllgor Materion Gwledig yn teimlo ei bod yn bwysig arddangos talent a sgiliau ein haelodau. Roedd y categorïau’n cynnwys y Stocmon Gorau a noddwyd gan Kepak, Rheolaeth Glaswelltir Gorau a noddir gan Germinal, Arallgyfeirio Gorau a noddir gan Fenter a Busnes a Gwobr Pencampwr Gwledig a noddir gan CCF.

Nododd Angharad Thomas, cadeirydd y Pwyllgor Materion Gwledig

“Roedd yn wych gweld y Gynhadledd Amaeth yn dychwelyd yn fwy ac yn well eleni. Cafwyd bore gwych yn gwrando ar y siaradwyr yn trafod gwahanol agweddau o’r gadwyn gyflenwi yn ogystal â’r sesiynau ymneilltuol yn y prynhawn oedd yn sicrhau fod y rhai a fynychodd gydag digon i’w hystyried ynghyd â ffyrdd o ychwanegu gwerth o fewn eu busnesau. Roedd y Gwobrau Amaeth cyntaf yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle i ddathlu ein haelodau a’u busnesau. Heb gefnogaeth barhaus y noddwyr ni fyddai’r digwyddiadau hyn yn bosibl.”

Fore Sul gwelwyd bron i 50 o gynrychiolwyr yn mynychu fferm Brongain. Eglurodd Dominic Hampson Smith, is-gadeirydd y Pwyllgor Materion Gwledig “Esboniodd Greg Pickstock safle Pickstock Telford, gan esbonio’r datblygiadau ac ehangiad y busnes ac uchelgais y busnes i fod yn sero net yn ogystal ag amlygu’r brandiau y maent yn ei ddefnyddio i werthu eu cynnyrch gan gynnwys lansiad y brand cig eidion Cymreig newydd. Dangosodd Rowan Pickstock ni o amgylch y stoc ifanc a’r adeiladau pesgi. Mae gan y fferm gynlluniau hefyd i fod yn sero net trwy wneud y gorau o borthiant yr anifeiliaid yn ogystal â phesgi anifeiliaid mewn cyfnod byrrach o amser.

Dymuna CFfI Cymru ddiolch yn ddiffuant i’r noddwyr; Ymddiriedolaeth Elusennol NFU, Kepak, Menter a Busnes, Germinal yn ogystal â noddwyr y rhaglen a’r prif noddwyr CCF sydd wedi bod yn noddwr allweddol dros y blynyddoedd.

CADWCH Y DYDDIAD: Bydd Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru 2025 yn cael ei gynnal ar 11 & 12 Ionawr 2025.