Newyddion CFfI Cymru
Cynhadledd a Gwobrau Amaeth CFfI Cymru
Cynhaliodd CFfI Cymru ei Chynhadledd a Gwobrau Amaeth blynyddol ar Fferm Rosedew, Llanilltud Fawr, ddydd Sadwrn yr 11eg o Ionawr 2025. Roedd ganddynt 5 o siaradwyr profiadol a thrafodwyd eu safbwyntiau ar y pwnc ‘Mentro ar Lwyddiant’. Jeff Evans, aelod o fwrdd CCF oedd cadeirydd y gynhadledd, a’r pum siaradwr oedd Nina Pritchard Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Marchnadoedd Ewropeaidd McDonald’s, Neil Burchell yn Fentor i Lywodraeth Cymru gyda Rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru, Emily Davies Golygydd Rheoli Just Farmers, Rhodri Davies o Fferm Rosedew, a Lauren Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufen Iâ Fablas.
Yn dilyn bore o sgyrsiau craff, mwynhaodd yr aelodau ginio rhost mochyn godidog gan y Spitting Pig Company gyda rhai yn dewis mynd am dro ar hyd y traeth cyn mynd i mewn i’r sesiynau ymrannu.
Yn ystod y prynhawn cafodd pawb oedd yn bresennol y cyfle i fynychu pedwar sesiwn ymrannu. Cyflwynwyd y sesiwn cyntaf gan y Spitting Pig Company, a roddodd gipolwg ar ei cwmni arlwyo sy’n arbenigo mewn coginio awyr agored. Arweiniwyd yr ail sesiwn gan Farmers Pantry a ddarparodd golwg graff i’r aelodau ar yr hyn sy’n gwneud Farmers Pantry yn arweinwyr mewn cynhyrchu bwyd lleol, cynaliadwy. Bwyd a Diod Cymru arweiniodd y drydedd sesiwn ar y pwnc ‘Adeiladu brand o’r dechrau’. Roedd y pedwerydd sesiwn a’r olaf yn nwylo galluog Kirsty Tamilia Arbenigwr Lloi a Da Ifanc, CCF.
Yn dilyn y sesiynau ymrannu, lansiodd Rural Advisor Gystadleuaeth Arloesi Busnes Gwledig 2025 lle caiff aelodau gyfle i ennill gwerth £1000 o gymorth a chyngor busnes gan y cwmni. Cynhelir y gweithdy cyntaf ar gyfer y gystadleuaeth nos Iau 23ain Ionawr 2025 am 19:00 yng Nghanolfan CFfI Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. I gofrestru eich presenoldeb, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cystadleuaeth Arolesi Busnes Gwledig / Cystadleuaeth Arloesi Busnes Gwledig
I gloi’r gynhadledd fe wnaeth Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru chwarae fideo yn pwysleisio pwysigrwydd diogelwch fferm: amddiffyn bywydau, bywoliaethau, a sicrhau llwyddiant hirdymor.
Mae Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru yn hynod ddiolchgar i bob noddwr a wnaeth helpu i wneud y gynhadledd yn bosibl, yn enwedig y gefnogaeth a dderbyniwyd gan CCF ac Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.
Cynhaliwyd ein hail Noson o Wobrau Amaeth gyda’r hwyr gyda 13 aelod yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer 6 gwobr arbennig. Mi wnaeth y gwesteion gyda’r nos fwynhau pryd blasus dau gwrs a gafodd ei goginio gan y tîm yn Fferm Rosedew. Gorffennwyd y pryd o fwyd gyda byrddau o gaws a chracers a oedd wedi ei noddi’n garedig gan Fwyd a Diod Cymru.
Ar ôl y swper, roedd hi’n amser i glywed y canlyniadau!
Ryan Jones o CFfI Brycheiniog a Gwern Thomas o CFfI Ceredigion wnaeth gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cynhyrchydd Stoc y Flwyddyn a noddwyd yn garedig gan Kepak, gyda Gwern Thomas yn mynd â’r tlws adref.
Cafodd Emily Williams o CFfI Ceredigion ac Ethan Williams o CFfI Morgannwg eu rhoi ar y rhestr fer gan y beirniaid ar gyfer y Wobr Arallgyfeiriad Orau a noddwyd yn garedig gan Mentera. Llongyfarchiadau i Emily Williams a ddaeth yn gyntaf gyda’i busnes lleoliad priodas.
Noddodd Germinal y Wobr Rheolaeth Glaswelltir Gorau eleni gyda Daniel Williams o CFfI Ynys Môn a James Anstey o CFfI Morgannwg yn cyrraedd y rhestr fer. Llongyfarchiadau i Daniel Williams am ddod i’r brig yn y categori yma eleni.
Eleni, roedd CFfI Cymru yn gyffrous iawn i gyflwyno dau gategori newydd i’r seremoni wobrwyo. Yn gyntaf, Gwobr Stocmon Llaeth Cynaliadwy a noddwyd yn garedig gan Leprino Foods. Daeth Frances Evans ac Iwan Owen, y ddau o CFfI Sir Gaerfyrddin, benben a’i gilydd gyda Frances yn mynd â’r wobr adref! Roedd y Wobr Pencampwr Iechyd Meddwl hefyd yn newydd ar gyfer 2025 a noddwyd yn garedig gan y Samariaid a Sefydliad DPJ. Fe wnaeth y beirniaid leihau’r enwebiadau i lawr i’r tri uchaf. CFfI Trisant o Geredigion, Elin Lewis o CFfI Maldwyn a William Meadmore o CFfI Gwent. Llongyfarchiadau i William Meadmore am ei lwyddiant yn y categori hwn.
Gwobr olaf y noson oedd Gwobr y Pencampwr Gwledig a noddwyd yn garedig gan CCF. Sian Lewis o CFfI Maldwyn ddaeth i’r brig yn y categori hwn gydag Ella Harris o CFfI Maesyfed yn ail agos iawn.
Roedd un wobr arall ar ôl i’w gyflwyno. Dros y pedwar mis diwethaf mae chwech aelod o bob rhan o Gymru wedi bod yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc ac roedd hi’n bryd darganfod yr enillydd. Llongyfarchiadau mawr i Janet Evans o Geredigion am ennill y gystadleuaeth a chafodd y dlws gan Julian Kelly o Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.
I orffen y noson, tynnwyd ein raffl fawr gydag 20 o wobrau anhygoel ar gael. Hoffai CFfI Cymru ddiolch i’r holl fusnesau a sefydliadau a oedd wedi rhoi gwobrau tuag at y raffl. Codwyd £922.41 yn ystod y raffl a fydd yn cael ei rannu rhwng dwy elusen a ddewiswyd gan y Cadeirydd eleni sef British Heart Foundation a CFfI Cymru. Mwynhaodd y gwesteion ddisgo gan y DJ Will Roderick i orffen diwrnod gwych yn Fferm Rosedew.
Y bore canlynol, cyfarfu’r aelodau am frecwast yng Nghaffi Acorn ar y safle cyn mynd am dro fferm o amgylch Fferm Pancross. Caewyd y penwythnos gyda chinio Sul yn ôl yng Nghaffi Acorn cyn i bawb ddychwelyd adref i bob cwr o Gymru.
Mae CFfI Cymru yn gyffrous i ddatgan bod y gynhadledd wedi ei ffilmio gan S4C ac y bydd yn cael ei dangos ar Ffermio ar 3ydd o Chwefror.