Newyddion CFfI Cymru
Cyhoeddi ‘Ni’n Sgwennu Nawr’ – Llais Llenyddol Newydd gan Bobl Ifanc Cefn Gwlad Cymru
Mae prosiect cyffrous yn gweld golau dydd wrth i gasgliad llenyddol newydd gael ei gyhoeddi gan bobl ifanc o gefn gwlad Cymru. Ffrwyth cyfres o sesiynau creadigol byw dan arweiniad yr adnabyddus Anni Llŷn a Bethan Gwanas yw’r gyfrol. Bydd Ni’n Sgwennu Nawr yn cael ei lansio yn y Ffair Aeaf ar ddydd Llun y 24ain o Dachwedd 2025.
Yn sgil cyfres o weithdai meithrin a datblygu syniadau, mentorwyd yr aelodau i ddatblygu eu crefft ysgrifennu dan adain y ddwy awdures brofiadol. Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o weithiau: straeon byrion, dramâu, monologau ac adroddiadau digri, ac yn darparu llwyfan i leisiau ifanc sy’n aml yn cael eu tangynrychioli.
Golygwyd y cynnwys gan Bethan Gwanas ac Anni Llŷn, gyda chlawr y gyfrol yn cael ei ddylunio gan Elin Mair Roberts o Glwb Godre’r Eifl, CFfI Eryri. Mae Ni’n Sgwennu Nawr yn dyst i botensial llenyddol ein hieuenctid.
Bydd y lansiad yn cael ei gynnal ar Ddydd Llun, y 24ain o Dachwedd yn adeilad CFfI Cymru yn y Ffair Aeaf am 3yp. Mi fydd y digwyddiad dan arweiniad yr aelodau, yn ddathliad o lais cenhedlaeth newydd o lenorion sy’n dod â phrofiadau’r ardaloedd gwledig i ganol y llwyfan llenyddol. Ymunwch gyda ni i ddathlu eu llwyddiant ac i gael blas o’r gyfrol. Cafodd y fenter hon gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru a Chymru Greadigol a diolch diffuant iddyn nhw am eu cefnogaeth.
Pris y gyfrol yw £9.99 a mae modd ei phrynu ar wefan CFfI Cymru, Sebra neu yn eich siop lyfrau lleol. Bydd hefyd modd prynu hi yn y lansiad.
