Newyddion CFfI Cymru

Cwblhaodd CFfI Sir Gaerfyrddin Her y Cadeirydd – TENYFAN!

Mae’n draddodiad yn Sir Gâr bod Cadeirydd y Sir a Llysgenhadon y Sir yn gosod her i’w hunain i godi arian i’w helusennau dewisedig nhw, ac roedd eleni ddim yn eithriad.

Fi, Caryl Jones yw Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr eleni a thîm Llysgenhadon 2024 – 25 yw Fiona Phillips fel Llysgenhades, Elgan Thomas fel Llysgennad ac yna Jack Davies, Siriol Howells, Daniel O’Callaghan a Katie Sauro fel dirprwyon, ac ar ôl sawl trafodaeth fe benderfynon ni gosod ein her am eleni sef Tenyfan! Cerdded Penyfan 10 gwaith mewn 24 awr.

Ar ôl sawl mis yn trefnu, cyfarfodydd gyda thîm Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac wrth gwrs sawl wac hir er mwyn cryfhau’r coesau, fe ddechreuon ni ar yr her ar nos Wener yr 11eg o Ebrill. Fe fuom ni’n ffodus iawn i gael cefnogaeth nifer fawr o aelodau a ffrindiau i ddechrau’r daith gyntaf gyda ni a hynny i gyrraedd y copa i weld hi’n machlud. Roedd y tywydd yn berffaith, a gwelwyd machlud hyfryd!

Yn ôl lawr a ni ac wedi nifer o’n ffrindiau’n ffawelio i fynd adre roedd yn rhaid i ni fel tîm i barhau drwy’r nos, rhif 2, 3, 4, 5… Roedd pawb yn edrych ymlaen i rhif 6 gyda nifer o aelodau a ffrindiau yn dod yn ôl i ymuno gyda ni er mwyn mynd i’r copa i weld hi’n gwawrio! A waw, am wawr! Roedd y tywydd wedi parhau i fod mor glir ag erioed, a phawb yn gallu mwynhau y golygfeydd godidog wrth wylio hi’n gwawrio, tic ar y ‘bucket list’ i nifer gan gynnwys fi!

Erbyn hyn roedd hi’n fore dydd Sadwrn y 12fed o Ebrill, roedd hi’n bwysig ein bod yn bwyta brecwast da oedd yn mynd i rhoi digon o egni i gadw ni fynd drwy gydol y dydd. Heidiodd nifer o aelodau a ffrindiau draw i Benyfan i gefnogi ni unwaith yn rhagor yn ystod y dydd, ac roedd hyn bendant wedi helpu ni fel tîm i barhau.

Yn ystod yr her fe ddaeth dros 80 o aelodau a ffrindiau’r mudiad i ymuno i gerdded rhan o’r her gyda ni ac ni fel tîm yn gwerthfawrogi cefnogaeth pawb yn fawr! Cwblhawyd yr her mewn 21 awr a hynny am 4 o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn, ac fel tîm cerddon ni dros 400,000 o gamau!

Diolch o galon i Tir Dewi, Hywel Dda a Stiwdio Lowri am y cit ar gyfer y diwrnod, i Brecon Carreg am y dŵr, Sioned Page Jones am gynorthwyo gyda’r cymorth cyntaf ac i bawb a fuodd wrthi yn y ‘gazeebo’ yn cadw ni fynd gyda bwyd a diod drwy gydol yr her!

Er roedd ein coesau wedi blino erbyn diwedd yr her, roeddem ni gyd mor ddiolchgar o fod wedi gallu mynd ati i gwblhau her o’r fath i godi arian i elusennau arbennig iawn. Elusen y Llysgenhadon eleni oedd Tir Dewi, elusen sy’n cefnogi pobl yng nghefn gwlad â problemau iechyd meddwl, ac fy elusen dewisiedig i fel Cadeirydd y Sir eleni oedd Uned Cemotherapi Glangwili. Elusen sy’n agos iawn i fi ond hefyd i nifer fawr o aelodau’r Sir wrth i ni golli aelod gwerthfawr yn ddiweddar a oedd yn derbyn triniaeth yn yr Uned yn Glangwili.

Ni’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cyfraniadau hael tuag at ein helusennau. Mae dal cyfle i gyfrannu drwy’r ddolen yma – https://gofund.me/c2db4665

Tybed pa her fydd y tîm nesaf yn gosod i’w hunain y flwyddyn nesaf?