Mae’r Iaith Gymraeg yn perthyn i ni gyd.
Croeso i’r Cornel Cymraeg! Yma bydd posib gweld y diweddaraf ynghylch y Gymraeg o fewn CFfI Cymru, gan gynnwys ein Cynllun Iaith Gymraeg, cydweithio a chyfleuoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Mae CFfI Cymru wedi ymrwymo i gynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog ac mae’n staff a’n aelodau yn gefnogol iawn o’r Iaith Gymraeg a’n hunaniaeth.
Cymerwch olwg dros ein polisi iaith a Chynnig Cymraeg wedi ei gymeradwy gan Comisiynydd y Gymraeg. Mae’r mudiad yn cefnogi diwrnodau i ddathlu ein hunaniaith, gwelir fideos islaw o’n aelodau yn ymuno i ddathlu’r Iaith ar y diwrnodau hynny.
Ein Cynnig Cymraeg

GWOBRAU CYMRAEG


Dydd Miwsig Cymru
Mae aelodau CFfI Cymru wedi recordio sengl, fersiwn o gân Rhys Gwynfor ‘Bydd Wych’. Rhyddhawyd y sengl ar y 7fed o Chwefror ac mae ar gael ar iTunes nawr! Diolch i adran Gymraeg Llywodraeth Cymru am ariannu’r prosiect hwn sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl drwy godi arian i’r elusen meddwl.org.
Diwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg

DIWRNOD SHWMAE / SU’MAE

Er mwyn dathlu diwrnod Shwmae / Su’mae, fe wnaeth CFfI Cymru greu fideo o gynrychiolwyr o bob sir yn dweud helo!
Allwch chi weld unrhyw wynebau cyfarwydd?
Rydym yn ddiolchgar i Llywodraeth Cymru am ariannu Swyddog Iaith Gymraeg i CFfI Cymru.
Os fydd unrhyw ymholiadau neu ofidiau am y Gymraeg yn CFfI Cymru, cysylltwch ar;
SwyddogCymraeg@yfc-wales.org.uk