Ffair Aeaf

Yn ystod y Ffair Aeaf a gynhelir ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, bydd aelodau’r CFfI yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau dros y dau ddiwrnod, megis barnu stoc, barnu carcas, ac addurno torch nadolig.


Mae gennym hefyd ddwy gystadleuaeth mynediad uniongyrchol, cystadlaethau’r Biff Ifanc a’r Prif Gynhyrchydd Ŵyn.

Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i ffermwyr ifanc ddangos eu sgiliau stocmon a dysgu gwybodaeth werthfawr o fewn y sector amaethyddol.