
Eisteddfod
Dewch i gystadlu neu ymweld a Eisteddfod CFfI Cymru am flas o ddiwylliant Cymru!
Mae Eisteddfod CFfI Cymru yn rhoi cyfle i aelodau berfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn amrywiaeth o gystadlaethau megis canu, llefaru, sgetsys a meim.
Eisteddfod CFfI yw’r unig Eisteddfod ddwyieithog o’i fath yng Nghymru.
Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal gan Sir wahanol yn flynyddol, gyda Sir o’r gogledd a Sir o’r de yn ei wneud yn ei thro. Mae’r Eisteddfod wedi ei chynnal mewn amryw o lefydd gan gynnwys Neuadd Brangwyn – Abertawe, Neuadd William Aston – Wrecsam a Venue Cymru – Llandudno.