Newyddion

CLWYD YN CIPIO EISTEDDFOD CFfI CYMRU!


Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru yn Neuadd William Aston, Coleg Glyndŵr, Wrecsam ar ddydd Sadwrn y 30ain o Dachwedd, wedi ei westeio gan Ffederasiwn Sir Clwyd. Yn ystod y dydd daeth dros 800 o aelodau o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad a gafodd ei noddi’n garedig gan Supatemps a chylchgrawn digidol Lysh .

Bu’r aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau gan gynnwys canu, llefaru ac eitemau ysgafn a chystadlaethau gwaith cartref yn llenyddol, celf a chrefft a ffotograffiaeth. Yn dilyn diwrnod llawn o gystadlu, Ffederasiwn Sir Clwyd aeth a Tharian Mansel Charles, y Ffederasiwn buddugol yn yr holl gystadlaethau gyda 57 o bwyntiau. Yn ail roedd Ffederasiwn Eryri gyda 50 o bwyntiau ac yn drydydd roedd Ceredigion gyda 47 o bwyntiau.

Yn ennill y gadair eleni oedd Twm Ebbsworth, aelod CFfI Llanwenog, Ceredigion am ei gerdd fuddugol. Myfyriwr yn ei ail flwyddyn yw Twm yn astudio gradd mewn Drama, Ffilm a theledu yn Aberystwyth. Cafodd y gadair ei wneud gan Arwyn Davies, a’i noddi gan Undeb Amaethwyr Cymru Fflint..

Aeth y fraint o ennill coron yr Eisteddfod am ysgrifennu stori fer eleni i Sion Jenkins o glwb Clunderwen yn Sir Benfro. Mae Sion yn gweithio gyda chwmni ITV Cymru Wales yng Nghaerdydd fel newyddiadurwr ar-sgrîn, gohebydd a chyflwynydd ar ITV Cymru Wales ac S4C. Cafodd y Goron ei chreu gan Mari Ellis cyn-aelod o glwb Uwchaled yn Nghlwyd, a’i noddi gan Corwen Farmers. 

Yn cipio’r safle gyntaf yng nghystadleuaeth y corau, ac yn ennill Cwpan Dyffryn Tywi, oedd CFfI Eryri.  Dafydd Wyn Jones, Ffederasiwn Clwyd, enillodd Cwpan Ardudwy – gwobr i’r unigolyn gorau yn yr adran gerddoriaeth ac ef hefyd oedd enillydd Cwpan Eirlys Myfanwy Davies a’i theulu am yr unawd Sioe Gerdd Fuddugol. Cyflwynwyd Cwpan Her Menter Iaith Sir Benfro am y Parti Deusain Buddugol i CFfI Eryri.

Nest Jenkins, Ffederasiwn Ceredigion oedd yr unigolyn gorau yn yr adran lefaru a gwobrwywyd Cwpan CFfI Cymru iddi. Daeth Mali Elwy, Owain John a Ebon Elwy yn fuddugol yn y gystadleuaeth cân gyfoes a gwobrwywyd Cwpan Meinir Richards iddynt. Gwobrwywyd Cwpan Joy Cornock i Nest Jenkins, CFfI Ceredigion am fod yr unigolyn mwyaf addawol yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod am ei unawd offerynnol ar y delyn.

Yn adran gwobrau’r ffederasiynau, fe gipiodd CFfI Llangybi, Eryri Darian Dyffryn Nantlle, a hynny am ddod yn bencampwyr yng nghystadlaethau Cerdd Dant. Yn cipio Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Dinbych am ennill yr adran Gwaith Cartref oedd Ffederasiwn Ceredigion. Aeth Tarian Elonwy Philips, sy’n cael ei wobrwyo i’r Ffederasiwn buddugol yn y cystadlaethau llwyfan, i Ffederasiwn Clwyd.

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod, Nia Parry;

“Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o aelodau’r mudiad o bob cwr o Gymru yn cystadlu ac yn mwynhau yn Wrecsam ddydd Sadwrn. Cafwyd Eisteddfod hwyliog a hwylus iawn yn dilyn misoedd o waith trefnu gan y Pwyllgor. Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd ym mhob ffordd at lwyddiant yr Eisteddfod, a llongyfarchiadau mawr i’r holl gystadleuwyr. Braf hefyd oedd gweld Twm Ebbsworth yn cael ei gadeirio ac yn ennill y gadair hardd a Sion Jenkins yn derbyn y Goron hardd. Dymunaf bob lwc i David Price a Phwyllgor Brycheiniog ar y gwaith trefnu ar gyfer Eisteddfod 2020!”

Gallwch weld uchafbwyntiau o’r Eisteddfod ar S4C Clic:

http://www.s4c.cymru/clic/c_index.shtml

Mae hefyd modd gweld y gerdd a’r stori fuddugol ar wefan Lysh Cymru:

https://www.lysh.cymru/llwyfan-llenyddol-llais

https://www.lysh.cymru/llwyfan-llenyddol-yfory