Clwb y Mis
Clwb y Mis – Tachwedd 2023
Tachwedd 2023
Enw y Clwb:
Clwb Dinas Mawddwy
Nifer o Aelodau:
25
Lle Rydych chi’n Cyfarfod:
Neuadd Bentref Dinas Mawddwy
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Hwyliog, brwdfrydig a chartrefol
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Noson Helfa Drysor Ceir
Cyflawniadau Codi Arian:
Rydym yn gwneud gweithgareddau codi arian pob blwyddyn, fel canu carolau, gwneud cyngerddau a gweithgareddau amrywiol. Uchelgais y clwb yn y flwyddyn 2023 oedd cynnal digwyddiad ‘Concro’r Cnu’ lle bu’r aelodau ynghyd a ffermwyr lleol yn cneifio heb oedi am 24 awr. Roedd yn 10 mlynedd ers i’r clwb ei gynnal am y tro cyntaf ac er mwyn dathlu’r achlsur penderfynwyd ei wneud eto. Llwyddodd y clwb i gasglu dros £25,000 gyda’r elw yn mynd at ddwy elusen yn agos at galonnau’r aelodau sef y DPJ Foundation ac Uned Cemotherapi Bronglais, a rhodd i’r neuadd bentref Dinas Mawddwy lle cynhaliwyd y digwyddiad. Rydym fel clwb yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth rydym wedi cael gan noddwyr, ffermwyr lleol i helpu ni i drefnu a chynnal y digwyddiad, holl wirfoddolwyr yn helpu gyda’r bar, y bwyd a rhediad y digwyddiad a phawb daeth i’m gweld ar y diwrnod.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Mae cymuned glos yma yn Ninas Mawddwy ac mae’r ffermwyr ifanc yn rhan fawr ohono. Rydym yn cymryd rhan mewn digwyddiadau’r ardal; canu carolau i oleuo goeden Nadolig y pentref, stondin yn ffair Nadolig y pentref, yn rhan o’r pwyllgor neuadd, gwneud gweithgaredd yn Sioe Dinas Mawddwy yn yr haf, stiwardio rali geir lleol a stiwardio yn ein Sioe Sir ac mae nifer o’n aelodau yn rhan o gwmni dramau y pentref. Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o nosweithiau adloniant ar gyfer trigolion yr ardal er mwyn iddynt weld y talent sydd yn y clwb a’r holl eitemau rydym yn paratoi ar gyfer yr eisteddfod a’r hanner awr o adloniant/drama/pantomeim.
Hoff gystadlaethau:
Mae’r cystadleuthau gwledd adloniant wastad yn rhai hwyliog ac mae’r clwb yn hoff o gystadlu ynddynt; boed yn hanner awr o adloniant, drama neu’n bantomeim. Unrhyw esgus i’r bechgyn allu wisgo fyny fel merched!
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:
Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i ni ac yn cael ei ddefnyddio ymhob rhan o’n clwb. Mae pob aelod yn siarad Cymraeg felly mae’r nosweithiau clwb, cystadleuthau a chymdeithasu yn digwydd drwy’r gyfrwng Cymraeg.