Clwb y Mis
Clwb y Mis – Mis Hydref 2024

Hydref 2024

Enw y Clwb:
Clwb Ffermwyr Ifanc Rowen
Nifer o Aelodau:
60
Lle Rydych chi’n Cyfarfod:
Neuadd CFfI Rowen, Ty’n Y Groes
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Brwdfrydig, teuluol, llwyddiannus
Cyflawniadau Codi Arian:
Codi Arian ar gyfer clwb Rowen, DPJ, MS a RNLI trwy noson lawen, gyrfa Chwist, BBQ haf a Stondin yn Sioe Eglwysbach
Gweithio o fewn y Gymuned:
Gwasanaeth Diolchgarwch a Dolig yng capel Eglwysbach a capel Seion Rowen, helpu gyda Sioe Eglwysbach, Carnifal Rowen, Gyrfa Chwist lleol a Noson Lawen y gymdeithas lleol.
Hoff gystadlaethau:
Eisteddfod, Barnu Stoc a Rali
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Defnyddiwyd y Gymraeg bob tro yn y clwb gan ein bod mewn ardal Cymreig. Mae cynnal cyfarfodydd ein clwb drwy’r Gymraeg yn bwysig i’n aelodau.
Unrhyw ffeithiau neu sloganau hwyliog eraill a.y.y.b
Un o ddau CFfI yng Nghymru sydd yn berchen ar neuadd y clwb.






