Mehefin 2023

CFfI Nantglyn, Clwyd

Enw y Clwb:

CFfI Nantglyn, Clwyd

Nifer o Aelodau:

34

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Mae Clwb Nantglyn yn cyfarfod yn wythnosol, unai yn Neuadd Y Groes neu neuadd yr eglwys Nantglyn, bob nos Lun am 7:30

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Cyfeillgar, Gweithgar, Hwyliog

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Mae ein nosweithiau clwb yn llawn hwyl ac mae sawl uchafbwynt, ond mae’n debyg bod noson chwarae cardiau pob amser yn boblogaidd, a does yr un noson clwb yn cael gorffen heb i bawb gael paned a bisged cyn mynd adref!

Cyflawniadau Codi Arian:

Fel o rhan o arddangosfa ffederasiwn yn y rali eleni, dewiswyd i godi arian tuag at Teenage Cancer Trust trwy dudalen Just Giving.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Ers 71 o flynyddoedd mae CFfI Nantglyn yn cynnal sioe amaethyddol flynyddol. Mae’r aelodau yn chwarae rhan fawr yn y gwaith trefnu yn cynnwys trefnu’r cystadlaethau, gosod a chlirio’r cae, stiwardio a gwneud bwyd. Dyma uchafbwynt y flwyddyn i’r aelodau ac mae’n braf gweld cyn-aelodau a ffrindiau y clwb yn dod at ei gilydd ar ddiwrnod y sioe. Mae cynnal sioe o’r fath yn dod a’r gymuned gyfan ynghyd gydag amrywiaeth o gystadlaethau at ddant pawb.

Hoff gystadlaethau:

Mae’r amrywiaeth o gystadlaethau mae’r CFfI yn ei gynnig yn golygu bod rhywbeth i bawb. Mae rhai yn serenu yn yr Eisteddfod a Gwyl Siarad Cyhoeddus ac eraill yn profi llwyddiant yn y Diwrnodau Gwaith Maes neu’r Rali.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:

Cymraeg yw iaith naturiol holl weithgareddau’r clwb.

Lluniau: