Medi 2023

CFfI Dyffryn Madog

Enw y Clwb:

Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Madog

Nifer o Aelodau:

86

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Neuadd Bentref Llanystumdwy

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Hwyliog, Gweithgar ac Ymroddgar

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Mae holl nosweithiau a gweithgareddau Noson Clwb yn gymaint o hwyl, ond rydym ni gyd yn mwynhau noson groesawu ar ddechrau pob blwyddyn. Y weithgaredd yw ‘Slip and Slide’ anferth ar fferm teulu un o aelodau’r clwb ac mae pawb wrth eu boddau yn rhedeg a sleidio i lawr y sleid. Bydd y noson yn dilyn gyda BBQ ac mae’n gyfle gwych i ni groesawu aelodau newydd i’n clwb ac i ddal fyny gyda aelodau parhaol y clwb wedi seibiant yn ystod yr haf.

Cyflawniadau Codi Arian:

Roedd eleni yn flwyddyn brysur iawn i ni fel clwb gan ein bod wedi cael y fraint o westeio Rali Eryri. Roedd hyn yn brofiad newydd a bythgofiadwy i’r aelodau i gyd ac mae’n diolch ni’n fawr iddynt am yr holl waith paratoi cyn y diwrnod mawr. Roedd cynnal y Rali yn golygu ein bod yn codi arian ar gyfer y Sir a hefyd roedd caffi bach yn cael ei gynnal yno, a’r elw yn mynd tuag at gronfa’r clwb. Buom hefyd ar ddechrau’r flwyddyn yn cynnal cyngerdd yn Neuadd Llanystymdwy i godi arian.

Gweithio o fewn y Gymuned:

  • Cynnal noson clwb yn hel ysbwriel ar hyd y traeth
  • Cael piano ar gyfer neuadd Bentref Llanystumdwy a rhai o’r aelodau yn gwirfoddoli i roi olwynion arni
  • Cynnal noson o ganu a pherfformiadau i Merched y Wawr Porthmadog
  • Criw o fechgyn yn mynd i’r Ysgol leol i dacluso o gwmpas yr iard a’r caeau.

Hoff gystadlaethau:

Rydym wedi gwir fwynhau pob gystadleuaeth eleni, ac fel clwb wedi cael profiad anhygoel yn cynnal y Rali. Rydym wedi bod yn ffodus iawn eleni i gael y tri tim tynnu rhaff, iau, merched a bechgyn yn ennill yn y Rali ac yn cael mynd i’r rownd derfynnol yn Y Sioe Frenhinol a’r bechgyn wedi dod yn ail a’r tim iau yn drydydd – felly mae’n rhaid dweud bod y Gystadleuaeth Tynnu’r Gelyn yn ffefryn ganddom.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:

Mae’r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio o fewn y clwb bob amser ganddom, ac rydym bob amser yn sicrhau bod sgyrsiau a nosweithiau clwb yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg tra’n bosibl. Rydym bob amser yn defnyddio caneupn Cymraeg mewn cystadlaethau llwyfan ac mewn Eisteddfodau hefyd. Rydym yn cynnal nosweithiau ysgrifennu cerddi cyn yr Eisteddfod hefyd er mwyn helpu ein gilydd, ac eleni buodd un aelod, Mared Roberts yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron, a dod yn ail drwy Gymru.