Clwb y Mis
Clwb y Mis – Medi 2025

Medi 2025

Enw y Clwb:
Clwb Ffermwyr Ifanc Wentwood
Nifer o Aelodau:
45
Lleoliad Cwrdd:
Neuadd Bentref Earlswood a Ffermydd Lleol
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Hwyliog, Cystadleuol ac Cymdeithasol
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Noson Arswyd ar Galan Gaeaf – Ar agor i bob clwb ac aelodau’r cyhoedd, bydd ein taith frawychus yn cynnwys ein haelodau’n neidio allan i’ch dychryn wrth i chi gerdded o gwmpas.
Cyflawniadau Codi Arian:
Y llynedd fe wnaethom galendr noeth gan godi £2,300 a rhoi £1,150 i Parkinson’s UK!
Gweithio o fewn y Gymuned:
Mae ein haelodau’n cymryd rhan ym mhopeth – rydyn ni’n helpu ar Fferm Chase ar gyfer Dydd Sul Fferm Agored, yn helpu i osod Adran Anifeiliaid Sioe Cas-gwent, ac mae gennym stondin ac rydym yn stiwardio yn y sioe hefyd. Rydyn ni hefyd yn cynnal ein Noson Arswyd flynyddol i’r trigolion lleol.
Hoff gystadlaethau:
Mae hwnnw’n gwestiwn anodd iawn, mae gennym aelodau sy’n caru barnu stoc, dawnsio a siarad cyhoeddus ond ar y cyfan mae ein holl aelodau wrth eu bodd â’r Gwledd o Adloniant!
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Ryden ni ddim yn defnyddio Cymraeg llawer, ond mae’n dechrau dod allan pan rydym ni’n canu penblwydd hapus ac eleni, rydym ni’n cymryd rhan yn Eisteddfod CFfI Gwent gyda llawer o aelodau’n awyddus i wneud pethau newydd
Unrhyw ffeithiau difyr neu sloganau eraill
#upthewood







