Mai 2024

CFfI Cegidfa

Enw y Clwb:

CFfI Cegidfa

Nifer o Aelodau:

17

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Cyffrous, Gwych a Diddorol.

Dywedwch ychydig wrthym am eich clwb:

Clwb Ffermwyr Ifanc Cegidfa ydym ni, clwb bach o 17 aelod sydd â’r ystod oedran o 10-28 oed. Mae ein clwb yn cael ei ddisgrifio fel un cyffrous, gwych a diddorol. Rydym yn caniatáu i’n calendr trwy gydol y flwyddyn fod yn hwyl, yn ddiddorol ac yn caniatáu i’n haelodau ddatblygu sgiliau newydd sy’n cysylltu â sgiliau bywyd y bydd ein haelodau eu hangen a’u defnyddio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. 

Dros y 12 mis diwethaf mae ein haelodau wedi cael cyfle i fynychu sgyrsiau fferm, tag laser, bocsio, coginio, gwaith coed, creu torchau ac rydym yn mynd i gymryd rhan mewn adeiladu rafft yn ddiweddarach eleni. 

Rydym yn bentref bach yn Cegidfa, i ymgysylltu ag aelodau hŷn ein cymuned, rydym yn cynnal bingos misol fel digwyddiad codi arian tuag at weithgareddau ein clwb. Mae ymgysylltu â’n cymuned yn ein galluogi i’w cefnogi pan fo angen, rydym wedi dangos cefnogaeth gyda’r gemau coroni adeg y Nadolig, trefnon ni gyngerdd carolau gyda chystadleuaeth coeden Nadolig wedi’i haddurno orau. Fel clwb rydym wedi cwblhau hyfforddiant dementia-gyfeillgar, rydym hefyd wedi dod yn hyrwyddwyr canser a bob blwyddyn cawn noson cymorth cyntaf lle dangosir i ni sut i ddefnyddio diffibriliwr, sy’n ein galluogi i gefnogi ein cymuned leol. 

Mae ein haelodau yn mwynhau beirniadu stoc, chystadlaethau adloniant ym mis Chwefror. Gall ein haelodau sgwrsio yn Gymraeg a Saesneg gan ein bod yn gymysgedd o siaradwyr Cymraeg a Saesneg, mae hyn yn wych i’n haelodau iau wrth iddynt gael eu cyflwyno i iaith newydd drwy’r clwb. Mae hyn hefyd yn helpu plant ifanc i deimlo bod croeso yn ein clwb gan fod cymysgedd o ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr rhugl.