Clwb y Mis
Clwb y Mis – Ionawr 2025

Ionawr 2025

Enw y Clwb:
Clwb Ffermwyr Ifanc Gŵyr
Nifer o Aelodau:
30
Lle Rydych chi’n Cyfarfod:
Neuadd Oxwich am y rhan fwyaf o’n nosweithiau clwb, fodd bynnag, mae sawl sefydliad lleol arall hefyd yn ein lletya.
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Egnïol, amrywiol, creadigol
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Unrhyw beth sy’n ymwneud â bwyd, rhywbeth ymarferol neu greadigol. Gemau sy’n cynnwys dod i adnabod ein gilydd ac sy’n groesawgar i aelodau newydd.
Cyflawniadau Codi Arian:
Cynhelir Marchnad Cynhyrch Ffermwyr llwyddiannus (mae mwy drwy gydol y flwyddyn wedi’u cynllunio), mae aelodau’r clwb yn cymryd rhan yn hanner marathon Abertawe. Trefnu nifer o deithiau tractor elusennol lle mae cyfranogwyr yn teithio o bob rhan o Gymru i fynychu. Mae gennym stondin yn ein Sioe Amaethyddol leol ym Mhenrhyn Gŵyr lle rydym yn hyrwyddo Ffermwyr Ifanc, digwyddiadau a gwaith elusennol. Noson Whist Nadoligaidd flynyddol sy’n dod â llawer o’r cyhoedd i mewn o bob cenhedlaeth.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Helpu i sefydlu a chasglu sbwriel yn ein sioe amaethyddol leol yng Ngŵyr. Cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus blynyddol sy’n codi arian i elusennau ac ymwybyddiaeth o wahanol sefyllfaoedd e.e. Cyflyrau iechyd. Cymryd rhan mewn gwasanaethau Cynhaeaf a Nadolig lleol gydag eglwysi/capeli gwahanol o amgylch Gŵyr. Hyrwyddo ein clwb ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl ifanc eraill yn yr ardal i fod yn rhan o gymuned ffermwyr ifanc. Fe wnaethom werthu ein hunain mewn arwerthiant elusennol lleol i wneud diwrnod o waith i bwy bynnag oedd â’r cais uchaf yn yr arwerthiant.
Hoff gystadlaethau:
Unrhyw beth ymarferol neu greadigol. Mae ein haelodau yn ymdrechu mewn cystadlaethau gan gynnwys ffensio, gosod brics, gwaith coed, coginio a chelf flodau. Mae gennym aelodau ifanc sy’n mwynhau cystadlaethau siarad cyhoeddus hefyd.
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Mewn posteri hyrwyddo. Mewn rhai gemau ar nosweithiau clwb. Ar y cyfryngau cymdeithasol.
Unrhyw ffeithiau neu sloganau hwyliog eraill a.y.y.b
“GOWWEERR!” CFfI Gŵyr yw uniad CFfI Penard a Three Crosses ac rydym wedi mynd o nerth i nerth. Er ein bod yn clwb bach ym Morgannwg, rydym yn sicr yn gwneud fyny am hyn gydag oomf, ‘determination’ a chymeriad.






