Clwb y Mis
Clwb y Mis – Ebrill 2025

Ebrill 2025

Enw y Clwb:
Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tanat
Nifer o Aelodau:
87
Lleoliad Cwrdd:
Neuadd Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Cydweithredol, brwdfrydig a chefnogol
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Rydym yn cynnal nosweithiau clwb bob yn ail wythnos a mae’r rhain yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau, teithiau, sgwrsiau a chyfarfodydd. Mae noson ein haelodau newydd wastad yn dechrau gwych i’n nosweithiau clwb ble rydym yn mwynhau gweld wynebau newydd ac adnabyddus yn cymryd rhan mewn gemau gweithredol. Mae rhai o’n nosweithiau clwb ffefryn eleni wedi cynnwys blasu bwyd! Roedd hyn yn cynnwys sgwrsiau gan ein cigydd lleol Izzy, Helen o Cwm Fedw Shoot a Emma ac Cath o Get Jerky Wales. Un o’n nosweithiau ffefryn yn y rhaglen yw ein ‘Mini Rally’ blynyddol. Mae hyn yn ffordd wych i gael ystod o oedrannau yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cyn y rali.
Cyflawniadau Codi Arian:
Yn ystod haf y llynedd fe cynhelion ni ddau ginio elusennol ar ôl priodasau aelodau’r clwb. Yn gyntaf, fe gawsom y ‘Dyfnant Olympics’ lle gwnaethom godi arian ar gyfer Lingen Davies. Yn ail, cynhelion ni’r ‘Gemau Gilman’, gan godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Pob blwyddyn, rydem yn cynal noswaith canu carolau ac eleni fe godwyd £1250 ar gyfer British Heart Foundation a Severn Hospice. Roedd hwn yn gyflawniad gwych ac roeddem yn falch o fod wedi codi’r swm hwn.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Mae eleni yn flwyddyn 90fed Dyffryn Tanat felly penderfynwyd ein bod ni’n rhoi yn ôl i’n cymuned trwy gwblhau 90 o weithredoedd caredigrwydd yn ystod blwyddyn y ffermwyr ifanc. Rydym ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth mae ein cymuned yn ei rhoi i ni sydd yn helpu gyda llwyddiant y clwb. Mae hyn wedi bod yn hynod o foddhaol i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono. Mae’r cymorth rydym ni wedi ei roi wedi cael ei werthfawrogi gan ein bod ni wedi derbyn adborth anhygoel gan y rhai rydym ni wedi helpu yn y gymuned. Mae rhai o’n gweithredoedd caredigrwydd wedi cynnwys helpu i wneud y parc lleol yn ddiogel eto, cyflwyno mince peis i’r gymuned, glanhau’r cenotaff ar gyfer Diwrnod Cofio a perfformio mewn digwyddiadau lleol. Mae’r gweithredoedd caredigrwydd hyn wedi bod yn ffordd wych o atgoffa pawb am bwysigrwydd cynnig llaw.
Hoff gystadlaethau:
Mae CFfI Dyffryn Tanat yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau gwahanol, ond roedd eleni yn flwyddyn fawr i’r clwb yn y ŵyl pantomeim. Mae’n gystadleuaeth lle mae amryw o aelodau’n cymryd rhan, ac mae’n rhoi cyfle i bob oedran gymysgu a chael hwyl ar y ffordd. Mae llawer o’n haelodau’n gwirioneddol yn mwynhau canu, dawnsio a actio. Daeth ein pantomeim ‘Cinderella and the Lost Welly’ yn ail yng Nghymru ac yna fe aethom ni i berfformio ar lefel Genedlaethol. Mae’r profiadau hyn yn rhai na fyddwn ni byth yn eu hanghofio. Mae’r rali sirol hefyd yn ffefryn yng nghalendr CFfI gyda aelodau Dyffryn Tanat. Eleni roeddem yn rhan o’r pwyllgor trefnu a oedd yn cynnwys llawer o baratoi ochr yn ochr â chlybiau eraill. Mae rhywbeth bob amser i bawb ei wneud yn y rali ac mae’n cyfle i gymdeithasu hefyd!
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Gan fod y clwb yn agos at y ffin, mae gennym gymysgedd o’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r aelodau Cymraeg mwy hyderus yn dda am annog, modelu a chefnogi defnyddio Cymraeg gyda aelodau llai hyderus.
Unrhyw ffeithiau neu sloganau hwyliog eraill a.y.y.b
Er ein bod ni’n glwb mawr iawn, rydym ni’n groesawgar ac yn garedig iawn. Yn CFfI Dyffryn Tanat, credwn fod rhywbeth i bawb. Mae pawb bob amser yn cael eu hannog i roi eu gorau. Wedi ei ffurfio 90 mlynedd yn ôl eleni, rydym yn mynd i ddathlu mewn steil gyda chinio mawreddog tei du. Rydym yn croesawu aelodau a ffrindiau y clwb o’r gorffennol a’r presennol i ddathlu llwyddiant y clwb 90 mlynedd ymlaen.










