Ebrill 2024

CFfI San Ishmael

Enw y Clwb:

CFfI San Ishmael

Nifer o Aelodau:

43

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Neuadd Llandyfaelog am 8yh bob nos Fawrth

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Cymunedol, cyfeillgar a hwylus

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Noson fowlio’r clwb sydd fwyaf poblogaidd bob blwyddyn gyda’r holl aelodau yn mynychu er mwyn ceisio fod yn nhîm y clwb i gael cystadlu yng nghystadleuaeth bowlio deg y sir.

Eich gwaith o fewn y gymuned:

Mae’n clwb ni yn brysur iawn o fewn y gymuned, rydyn ni’n ffodus i gael sioe amaethyddol yn Llandyfaelog ers bron i 120 o flynyddoedd ac mae aelodau’r clwb bob blwyddyn yn helpu gyda’r stiwardio, gyda 2 o gynrychiolwyr o’r clwb yn eistedd ar bwyllgor y sioe hefyd, aelod benywaidd a gwrywaidd y flwyddyn o fewn y clwb yw llysgennad a llys genhades y sioe bob blwyddyn. Yn ogystal â’r sioe mae gennym ni eisteddfod leol yn Llandyfaelog gyda’n haelodau hefyd yn rhan o’r pwyllgor yma ac mae’n aelodau yn cynorthwyo’n flynyddol, naill ai yn rhedeg y siop neu’n arwain yr eisteddfod o’r llwyfan! Yn ogystal â’r ddau ddigwyddiad yma mae’n aelodau yn rhan o bwyllgor y neuadd gymunedol a bob tro yn barod i helpu gydag unrhyw weithgareddau’r pentre’, gall hyn gynnwys cefnogi noson chwist yr eglwys neu stiwardio cystadleuaeth bwgan brain y pentref!

Hoff gystadlaethau:

Mae’n amhosib dewis un gystadleuaeth! Ond cystadlaethau’r rali a’r diwrnod chwaraeon yw pan fo’n aelodau ni’n cyffroi mwyaf. Mae nifer ohonynt wrth eu bodd ac yn llwyddiannus iawn wrth farnu stoc, coginio a gwneud y static! Ond hefyd ni’n glwb sy’n mwyhau ein hathletau a’n rygbi yn fawr iawn, gyda sawl aelod yn rhan o’r tîm enillodd y rygbi 7 bob ochr yn y Sioe Frenhinol llynedd!

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?

Cymraeg yw prif iaith ein clwb ac mae mwyafrif o’n gweithgareddau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Er hyn mae sawl aelod di-gymraeg wedi ymaelodi a’r clwb eleni ac felly caiff unrhyw noson pan eu bod yn bresennol ei redeg yn ddwy ieithol gan ddysgu ambell air Cymraeg iddynt!

Unrhyw ffeithiau eraill?

Rhywbeth cyffrous o fewn y clwb eleni yw ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 90ain, fel clwb henaf Sir Gâr ac un o glybiau ffermwyr henaf Cymru rydyn ni’n falch tu hwnt ein bod wedi gallu cyrraedd y fath garreg filltir! Cawsom adloniant gwerth chweil yn ein cyngerdd drwy’r degawdau ym mis Mawrth ac edrychwn ymlaen at y ‘It’s a Knock Out’, dawns a’r cinio mawreddog sydd ar y gweill am weddill y flwyddyn.