Clwb y Mis
Clwb y Mis – Ebrill 2023

Ebrill 2023

Enw y Clwb:
CFfI Llanbrynmair & Carno, Maldwyn
Nifer o Aelodau:
33
Lle Rydych chi’n Cyfarfod:
Canolfan Gymunedol Carno / Ysgol Gynradd Llanbrynmair
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Ifanc, Brwdfrydig ac Optimistaidd
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Pêl-droed Swigod – Wedi’i gynnal yng Ngharno ar y cae pêl-droed yn yr haf, roedd yr aelodau’n meddwl ei fod yn llawer o hwyl!
Taith Fferm Wynt Carno – Addysgwyd yr aelodau am ei fferm wynt leol, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys dau gam ac yna cawsant gyfle i fynd i mewn i un!
Noson Pizza a Chwis – Gwnaeth yr aelodau amrywiaeth o pizzas diddorol a’u bwyta wrth wneud y cwis!
Cyflawniadau Codi Arian:
Cododd golchiad ceir blynyddol y clwb ym mis Medi £420.
Cododd noson bingo, a gynhaliwyd ym mis Ionawr, £420 i Sefydliad DPJ.
Cododd cinio Clwb CFfI Llanbrynmair & Carno £1100 eleni.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Mae’r Clwb yn trefnu gweithgareddau yn Sioe Llanbrynmair a Sioe Carno bob blwyddyn. Y llynedd, fe drefnon nhw chwaraeon yn sioe Carno a chystadleuaeth taflu wyau yn Sioe Llanbrynmair.
Hoff gystadlaethau:
Bu’r Clwb yn cystadlu yn y cystadlaethau Diwrnod Gwaith Maes, Eisteddfod, Barnu Stoc, Siarad Cyhoeddus a Rali yn flynyddol. Maen nhw wir yn mwynhau cystadlu yn Rali’r sir lle mae eu haelodau’n cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau megis gosod blodau, dawnsio a chneifio cyflym.
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:
Yn ystod cyfarfodydd, trafodir materion yn Gymraeg a Saesneg, gan fod mwyafrif yr aelodau yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Fodd bynnag, mae rhai aelodau yn dysgu Cymraeg ac felly rydym yn sicrhau ein bod yn gynhwysol a bod pawb yn deall.
Ffeithiau Hwyl:
Eleni, cynhaliodd y clwb eu Cinio a Dawns Clwb cyntaf ers chwe blynedd, gyda chyfanswm o 96 yn mynychu’r pryd!
Lluniau:







