Clwb y Mis
Clwb y Mis – Chwefror 2023
Chwefror 2023
Enw y Clwb:
CFfI Penybont, Maesyfed
Nifer o Aelodau
39
Lle Rydych chi’n Cyfarfod:
Neuadd Penybont, Powys
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Ifanc, Penderfynol a Brwdfrydig
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Un o’n nosweithiau clwb mwy diweddar oedd noson Cwis a Pizza. Yn ogystal, gyda chymorth rhai grantiau, rydym hefyd wedi gallu cynnal rhai nosweithiau clwb unigryw fel llogi Tarw Rodeo fis Chwefror diwethaf a chwrs Ymosodiad Bynji y llynedd.
Cyflawniadau Codi Arian:
Rydym yn codi arian i’r clwb drwy logi siop elusen yn flynyddol sy’n codi dros £1000, sy’n cadw’r clwb i fynd o ran arian. Rydym hefyd yn cynnal cyngerdd ar ôl y gystadleuaeth adloniant/panto sy’n gwneud digon o arian i dalu am ein costau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi dechrau trefnu rhediad tractor ychydig cyn y Nadolig. Eleni fe wnaethom godi dros £5300 i’w rannu rhwng ysbyty plant Birmingham, Teenage Cancer Trust ac MNDA, a llynedd fe wnaethom godi dros £6500!
Gweithio o fewn y Gymuned:
Mae’r rhediad tractor yn arddangos y gorau oll o ffermwyr ifanc a’r gymuned ffermio i’r cyhoedd ehangach. Roedd dros 100 o dractorau yn bresennol eleni gyda llwybr wedi’i gynllunio i gynyddu ein presenoldeb mewn amrywiaeth o bentrefi a threfi lleol. Mae hyn bellach yn cael ei gydnabod fel rhan o galendr Nadolig y gymuned leol. Fel clwb rydym hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymunedol lleol megis carolau o amgylch y goeden Nadolig a cneifio cyflym lleol.
Hoff gystadlaethau:
Mae’n rhaid mai adloniant yw ein hoff gystadlaeth, oherwydd mae’n gystadleuaeth clwb cyfan sy’n dod â’r clwb yn agosach at ei gilydd. Ffefryn arall yw’r cwis rhwng clybiau a fynychir yn dda gan dimau o bob rhan o Faesyfed.
Lluniau: