Clwb y Mis

Clwb y Mis – Awst 2025

Awst 2025

CFfI Betws yn Rhos

Enw y Clwb:

Clwb Ffermwyr Ifanc Betws yn Rhos

Nifer o Aelodau:

24

Lleoliad Cwrdd:

Neuadd y Pentref

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Hwyl, Cymdeithas a Cwrw!

Hoff Weithgaredd Noson Clwb: 

Noson yng nghwmni Les Battersby. Cawsom noson llawn hwyl, chwerthin a straeon difyr gyda Bruce Jones, yr actor adnabyddus a chwaraeodd Les Battersby yn y gyfres boblogaidd Coronation Street. Cyfle i glywed hanesion tu ôl i’r llenni, gofyn cwestiynau, a mwynhau cwmni unigryw

Cyflawniadau Codi Arian:

Rydym wedi bod yn brysur gyda nifer o weithgareddau llwyddiannus i godi arian dros y flwyddyn ddiwethaf. Ymhlith y rhain roedd y Daith Tractorau Blynyddol, a ddenodd gefnogaeth wych gan y gymuned leol. Cynhaliwyd hefyd gyrfa chwist boblogaidd, gan greu noson hwyliog a chystadleuol i bawb, yn enwedig ir henoed. Yn ystod digwyddiad Da Byw (cynhadledd amaethu cynaliadwy) ar Stad Coed Coch, roedd Harri Wanklyn a Rhun Beniarth yn gyfrifol am redeg y bar – gan sicrhau bod pawb yn cael diod a chwmni da, a’r elw’n mynd tuag at achosion da.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Rydym yn trefnu nosweithiau hel sbwriel yn rheolaidd, gan helpu i gadw’r ardal yn lân ac yn daclus. Bu aelodau hefyd yn stacio bels bach i Bob Nant y Glyd, gan gynnig cymorth i ffarmwr lleol. Yn ogystal, mae rhai o aelodau’r clwb wedi sefydlu’r Gymdeithas Gorchuddio Pitiau Silwair, gan sicrhau bod y gwaith caled yn cael ei wneud yn ddiogel, yn effeithlon, ac yn bwysicaf oll – yn hwyliog

Hoff gystadlaethau:

Barnu Stoc, ffensio, tynnu rhaff, its a knockout, coginio (a buta)

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?

Pob noson clwb ac o ddydd i ddydd