Newyddion CFfI Cymru

CFfI Penmynydd yn codi £4644 gyda’u taith tractorau Nadoligaidd

Tra ar Instagram, sylwodd tîm CFfI Cymru fod CFfI Penmynydd wedi codi swm anhygoel o arian i nifer o elusennau dros gyfnod y Nadolig. Cysylltom â’r clwb i glywed eu stori, sgroliwch i lawr i glywed popeth am eu taith tractorau Nadoligaidd! ✨🚜

“Yn dilyn llwyddiant taith tractorau Nadolig cyntaf erioed i CFfI Penmynydd drefnu yn 2023 a gododd dros £1800 i Hosbis Dewi Sant, Caergybi, mi ddaeth tîm bychain ohonom at ein gilydd unwaith eto mis Medi 2024 i ddechrau trefnu’r daith ar gyfer y Nadolig unwaith eto.

Penderfynwyd eleni ein bod am gasglu arian i Ambiwlans Awyr Cymru ag Awyr Las sef elusen GIG Betsi Cadwaladr ag roeddem hefyd am hel arian i’r clwb fel ein bod yn gallu parhau i dalu rhent yn y Ganolfan yn Mhenmynydd ag yn gallu prynu nwyddau hanfodol i’r clwb barhau i ffynu. Yn 2023, roedd ganddom 24 o dractorau felly roedden yn gobeithio am y run faint yn 2024 ond wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaen ar trefniadau ddechrau dod at ei gilydd, roedd y niferoedd o dractorau a pickups oedd wedi cofrestru yn codi pob dydd!

Fe ddaeth y diwrnod mawr, roedd y tywydd yn ffafriol ag roedd Sion Corn wedi cadarnhau ei fod yn gallu mynychu unwaith eto eleni – haleliwia! Fe droiodd i fyny tractorau o bob maint a lliw i’r man cychwynol yn ogystal a pickups a mules, pob un wedi ei addurno i rhoi sioe dda i bawb oedd allan yn ein croesawu yn y pentrefi – doedd dim llawer o dractorau oedd ddim ar y daith ar ôl ar Ynys Môn! Fe gawsom daith o 35 milltir o gwmpas ardal Penmynydd gyda seibiant yn Llangefni hanner ffordd er mwyn i’r cyhoedd gael gweld yr holl oleuadau a dweud helo wrth Sion Corn! Ymlaen wedyn i gario ‘mlaen y daith cyn dod nol i Benmynydd er mwyn cael bwyd a sgwrs dros baned.

Roedd hi’n noson wych a llwyddo ni godi £4644 i rhannu rhwng y ddwy elusen ag CFfI Penmynydd. Rydym yn diolch o waelod calon i’r tîm oedd yn trefnu ag bob unigolyn a busnes wnaeth ein cefnogi mewn unrhyw ffordd i wneud y daith yma’n bosib! Diolch hefyd i bawb ddaeth allan yn y pentrefi i gefnogi a chodi llaw! Rydym wir yn edrych ‘mlaen am y daith eleni!”