Newyddion

CFfI Cymru yn ymateb i cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Yn CFfI Cymru rydym yn angerddol am yr amgylchedd ac yn credu’n gryf bod un digwyddiad llygredd yn un yn ormod. Fodd bynnag, mae aelodau’r pwyllgor Materion Gwledig, yn ogystal â’r aelodaeth ehangach wedi mynegi eu siom wrth clywed am reoliadau NVZ ledled Cymru, a ryddhawyd yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru. Mae cyflwyno dull gweithredu ledled Cymru, a fydd yn cwmpasu ardal fwy na 40 gwaith yn fwy na’r NVZ cyfredol, yn destun pryder mawr ac yn anghymesur â’r hyn a ystyriwyd o’r blaen.

Bydd y rheoliadau hyn nid yn unig yn effeithio ar fusnes amaethyddol ond hefyd ar y cymunedau gwledig ehangach a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Yn ystod yr amser anodd hwn eisoes i ddiwydiant sydd dan bwysau sylweddol, ni fydd y cyhoeddiad hwn ond yn ychwanegu straen ychwanegol i deuluoedd ffermio ledled Cymru.

Fel sefydliad rydym am sicrhau ein haelodau y byddwn yn gweithio’n agos gyda’r undebau amaethyddol, gan sicrhau bod llais y genhedlaeth nesaf yn cael ei glywed ac fel bob amser mae CFfI Cymru yma i’ch cefnogi.