Newyddion

CFFI CYMRU YN Y FFAIR AEAF

Teithiodd aelodau CFfI Cymru o bob rhan o Gymru a Swydd Henffordd i Ffair Aeaf Amaethyddol Brenhinol Cymru i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau, a gynhaliwyd dros y ddau ddiwrnod.

Braf yw cyhoeddi bod pob un o 12 sir Ffederasiwn Cymru wedi cystadlu yn ystod dau ddiwrnod y Ffair, gyda sylw arbennig i ffederasiynau Ceredigion a Gwent am ddod yn gyd-enillwyr CFfI y Ffair, gyda Sir Benfro yn dod yn drydydd.

Yn dilyn ymlaen, yn yr adran barnu stoc gallai pob sir roi tîm o bedwar aelod at ei gilydd (Dan 16, 18, 21 a 28 oed) ar gyfer pob un o’r tri dosbarth; Ŵyn ar y bachyn, gwartheg cigyddion a Ŵyn cigyddion. Cafodd Maesyfed a Maldwyn eu canmol fel gyd-enillwyr goruchaf y dosbarthiadau Barnu Stoc, a Ceredigion gafodd y trydydd safle.

Materion Gwledig yn y Ffair Aeaf

Ar y bore Llun, cynhaliodd CFfI Cymru, Dunbia a Sainsbury’s brunch ar y cyd i ddathlu 15 mlynedd ers sefydlu’r Fenter Ŵyn. Yn ystod y digwyddiad hwn, bu cyflenwyr a thri phartner y cynllun yn ymgysylltu â siaradwyr gwadd a mwynhau ychydig o gawl, wedi’i gwneud â chig oen o gadwyn gyflenwi’r fenter. Mwynhaodd cyflenwyr, cynrychiolwyr partneriaid a swyddogion y digwyddiad yn fawr, ac edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu momentwm ar gyfer dyfodol y cynllun.

Yn ddiweddarach y prynhawn Llun hwnnw, cynhaliwyd cystadleuaeth flynyddol Prif Gynhyrchydd Ŵyn CFfI Cymru. Roedd tri dosbarth cychwynnol; bridiau cyfandirol, iseldir a mynydd. Steffan Thomas, Sir Gâr enillodd y dosbarth cyfandirol gyda’i ŵyn Beltex. Derbyniodd Sioned Thomas, Sir Benfro, rhoséd goch gyda’i Southdowns yn y dosbarth Iseldir ac enillodd Gethin Davies, Ceredigion, y lle cyntaf gyda’i ŵyn Cymreig Tregaron yn nosbarth brid mynydd. Yna aeth yr holl bencampwyr a’r is-bencampwyr yn ôl i’r cylch i gystadlu yn erbyn ei gilydd am deitl Prif Bencampwr y Cynhyrchydd Ŵyn, a ddyfarnwyd i Steffan Thomas. Bu Sioned Thomas hefyd yn llwyddiannus wrth ennill gwobrau’r Is-Pencampwr a’r Stocmon Gorau. Ac yn olaf, y cystadleuydd newydd yn y safle uchaf oedd Gethin Davies, Ceredigion.

Yn gynnar ar y bore dydd Mawrth, roedd llond llaw o’n haelodau yn brysur yn paratoi eu lloi ar gyfer ein cystadleuaeth Biff Ifanc. Derbyniodd Angharad Davies, CFfI Ceredigion y teitl o Bencampwr Goruchaf Biff Ifanc CFfI Cymru gyda’i heffer a dyfarnwyd Owen Phillips, CFfI Swydd Henffordd, fel yr Is-Bencampwr Goruchaf gyda’i heffer. Mae’n werth nodi hefyd wnaeth Jordan Chapman, CFfI Sir Gâr, dderbyn teitl Bustach Gorau. Aeth Gwobr y Stocmon Gorau i Jack Bodily, Gwent a’r Cystadleuydd Newydd â’r Safle Gorau oedd Will Edwards, Morgannwg.

Hoffem ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i Dunbia am noddi’r beirniadu stoc a’r Cystadlaethau Prif Gynhyrchwyr Ŵyn eto eleni. Rydym hefyd yn ddiolchgar i ABP am noddi’r gystadleuaeth Biff Ifanc ac edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu a datblygu’r rhain yn y dyfodol.

Cystadleuaeth Cywain

Yn ddiweddarach y dydd Mawrth hwnnw, cynhaliodd CFfI Cymru gystadleuaeth mewn Partneriaeth â Menter a Busnes, a derbyniodd yr enillydd ysgoloriaeth o £1,000 a chefnogaeth gan y prosiect Cywain! Roedd yn rhaid i’r aelodau a oedd yn cystadlu creu cynllun busnes ar gyfer eu busnes newydd (neu bresennol) o fewn y diwydiant bwyd a diod. Roedd Cynlluniau Busnes a gyflwynwyd yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch, eu gwahaniaethwyd, strategaethau marchnata a sut maent yn cynllunio tyfu’r busnes yn y dyfodol. Roedd y cynllun busnes hefyd yn nodi sut y byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn dyrannu’r wobr ariannol o £1,000 a gyflwynwyd gan Menter a Busnes er mwyn datblygu eu busnes i fod yn un hyfyw i’r dyfodol. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, yn seremoni wobrwyo’r CFfI, cyhoeddwyd mai Huw Rowlands o Forgannwg fyddai’r aelod sy’n derbyn yr ysgoloriaeth hon a dymunwn bob lwc iddo yn natblygiad ei fusnes i’r dyfodol.

HER ATV

Gan weithio mewn partneriaeth â Quad Bikes Wales, mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru wedi rhedeg yr Her ATV am y drydedd flwyddyn, gyda’r enillydd yn derbyn beic cwad Honda newydd am flwyddyn trwy garedigrwydd Quad Bikes Wales.

Mae CFfI Cymru hefyd yn falch o fod yn gweithio fel partner o fewn partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Nod y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth o heriau Iechyd a Diogelwch, goblygiadau a sut i weithio’n ddiogel.

Gan weithio gyda’r barnwr Mr Sam Marvin, heriwyd yr aelodau i ymgymryd â her ATV, yn ogystal â chwblhau holiadur diogelwch.

Gyda’r wobr fawreddog o Feic Cwad Honda am flwyddyn i’w hennill, ynghyd â helmed ddiogelwch i’r enillydd a’r rhai a ddaeth yn ail, bu aelodau o bob rhan o Gymru yn cystadlu yn yr her, gyda Sam Bowen, aelod o Radnor Valley, Maesyfed, yn ennill y wobr fawreddog. Nodwyd Lloyd Hammond, CFfI Hawy a William Jenkins, CFfI Lledrod fel rhai teilwng yn ail.

Wrth siarad am y gystadleuaeth a’i lwyddiant, nododd Sam Bowen:

“Am gyfle gwych i rywun ennill cwad newydd sbon. Wnes i erioed feddwl am eiliad y byddwn i wedi ei hennill. Gwobr anhygoel a roddwyd yn garedig gan Quad Bikes Wales. Pwynt allweddol yr her hon oedd diogelwch ac fe dylid gwthio hyn mwy i ffermwyr/gweithwyr gan fod pawb yn anghofio’r pethau sylfaenol o bryd i bryd ac mae gwneud y cystadlaethau hyn yn adnewyddu eich cof. Roedd yn wych cystadlu ac roedd yn hynod o drefnus, a dylai mwy o bobl gystadlu. Beth sydd gennych i’w golli? (Maen nhw hyd yn oed rhoi tocyn am ddim i chi i’r ffair aeaf!) Diolch yn fawr iawn i bawb a drefnodd y gystadleuaeth hon a gobeithio y bydd gennych fwy o geisiadau y flwyddyn nesaf.”

Mae CFfI Cymru yn estyn ei ddiolch i Quad Bikes Wales am eu cefnogaeth barhaus i’r gystadleuaeth hon.