News

Ceredigion yn dadlu eu ffordd i ddau fuddugoliaeth!

Ddydd Sul 24 Mawrth, daeth cannoedd o aelodau CFfI o bob rhan o Gymru ynghyd ar faes y Sioe Frenhinol ar gyfer yr Ŵyl Siarad Cyhoeddus flynyddol. Hoffem ddiolch i Menter a Busnes am noddi’r gystadleuaeth hon. Hoffem ddiolch hefyd i Brifysgol Harper Adams, LANTRA a UAC am ganiatáu i ni ddefnyddio eu hadeiladau ar gyfer y cystadlaethau. 

Cystadleuaeth gyntaf y diwrnod oedd Darllen Iau Cymraeg, a ddyfarnwyd gan Mr Alwyn Evans. Cafodd yr aelodau iau y dasg o ddarllen ‘Academi Mr Dŵm’ gan Jon Gower. Y sir ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth hon oedd Ceredigion, gydag Esyllt yn ennill y Darllenydd Gorau. Bu’n rhaid i aelodau a gystadlodd yn y Darllen Iau Saesneg ddarllen ‘Danny the Champion of the World’ gan Roald Dahl. Beirniadwyd y gystadleuaeth hon gan Meira Lloyd Harries. Y sir fuddugol oedd Brycheiniog gyda Mariana yn cael ei choroni yn Ddarllenydd Gorau. 

Roedd y gystadleuaeth nesaf ar gyfer aelodau 16 oed ac iau. Beirniadodd Mrs Nia Thomas yr Adran Iau yn y Siarad Cyhoeddus Gymraeg a beirniadodd Mrs Sarah Lewis yr Adran Iau yn y Gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Saesneg. Sir Gaerfyrddin oedd sir fuddugol y gystadleuaeth Gymraeg gyda Celyn yn derbyn gwobr y Siaradwr Gorau. Enillodd tîm Ceredigion y gystadleuaeth Saesneg gyda Rhodri yn cael ei goroni’n Siaradwr Gorau.   

I’r adran ganol, Cystadleuaeth Brainstrust yn yr Iaith Saesneg a Dadlau yn yr adran Gymraeg oedd hi. Fe wnaeth Mr Deryc Rees feirniadu timau’r Gymraeg. Sir Gaerfyrddin enillodd y gystadleuaeth hon gydag Iwan Bryer yn derbyn gwobr y Siaradwr Gorau. Mr Martyn Popham oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth Saesneg, gyda CFfI Sir Benfro yn cipio’r goron y tro hwn a Charlotte Lewis yn derbyn gwobr y Siaradwr Gorau. 

Roedd yr Aelodau Hŷn yn cystadlu yn Siarad ar ôl Cinio gyda Mr Ben Lake AS yn beirniadu’r gystadleuaeth Gymraeg. Tîm Ceredigion enillodd y gystadleuaeth gydag Elen Davies yn derbyn gwobr y Siaradwr Gorau. Enillodd Ceredigion y Gystadleuaeth Ddadlau ‘MACE’ Saesneg gyda Meleri Morgan yn derbyn y Siaradwr Gorau. Beirniadwyd y gystadleuaeth hon gan Mr Roger Phillips.   

Enillydd y Gystadleuaeth Ymgeisio am Swydd Adran Ganol, a fernir gan Meinir Wigley ac Iona Lloyd-Davies oedd Charlotte Lewis o CFfI Sir Benfro. Beirniadwyd y Gystadleuaeth Ymgeisio am Swydd Adran Hŷn gan Kath Jones a Steve Hughson, Lauren David o CFfI Morgannwg gipiodd y goron yn y gystadleuaeth hon.    

Tra bod yr holl gyfweliadau, darllen a cystadlaethau siarad cyhoeddus yn cael eu cynnal, roedd nifer o aelodau’n brysur yn crefftio yng ngweithdy CFfI Cymru ar gyfer y Gystadleuaeth Arddangosfa Ciwb. Roedd yn rhaid i’r aelodau arddangos gwlad o’u dewis drwy drefnu blodau, coginio, crefft tecstilau, crefft celf a chrefft llaw naturiol. CFfI Sir Gaerfyrddin oedd yr enillwyr gyda eu arddangosfa o Gymru fach. 

I orffen y diwrnod fe gynhaliom gystadleuaeth Dawnsio Disgo gyda saith sir yn cystadlu. Roedd yn wych gweld yr holl wisgoedd gwych a’r coreograffi yn digwydd, gan ychwanegu ychydig o sparkle at y diwrnod. Dawnsiodd CFfI Brycheiniog eu ffordd i fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth hon.  

CFfI Ceredigion oedd yr enillwyr cyffredinol yng Nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymraeg a Saesneg. 

Hoffem ddymuno pob lwc i’r holl aelodau a fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli CFfI Cymru yng Nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus FfCFfI ym mis Gorffennaf ar faes Sioe Stafford.