News

CFfI Cymru yn mynychu Cynhadledd NFU

Cafodd gynrychiolwyr o CFfI Cymru eu gwahodd i fynychu cynhadledd yr NFU a gafodd ei gynnal yn yr ICC yn Birmingham.

‘Roedd yn gynhadledd deuddydd ardderchog a’r  thema oedd “Bwyd Prydeinig: pa gynllun i’r dyfodol?”  Dechreuodd y gynhadledd gyda araith gan y Llywydd Minette Batters.  Nododd ei bod yn disgwyl clywed yn ystod y ddau ddiwrnod  sut mae gwleidyddion a rheolyddion  yn cynllunio i sicrhau dyfodol  dirgrynol a buddiol i gynhyrchiad bwyd ar draws y DU.

Dechreuodd y gynhadledd gyda araith boliticaidd gan y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, ac wedyn ei ddilyn gan Jack Bobo , Cyfarwyddwr Sefydliad Systemau Bwyd , Prif Ysgol Nottingham yn rhoi cyflwyniad ar Systemau Bwyd Prydeinig yn y Cyswllt Byd-eang.  Cafwyd sesiwn ar dyfodol bwyd Prydeinig ac ar y panel ‘roedd Sarah Bradbury, Prif Weithredwr Sefydliad Dosbarthu Bwydydd, Yr Athro Susan Jebb OBE, Cadeirydd Asiantaeth Safonau Bwyd a Kate Nicholls OBE, Prif Weithredwr Lletygarwch y DU.  I ddilyn hyn fe gawsom gyflwyniad ar Ffermio a’r Amgylchedd gan y Cadeirydd Alan Lovell a diwedd y diwrnod gyda sesiynau cynwydd.

Cawsom noson hwyliog gyda Nigel Owens, OBE fel y gwr gwadd.  ‘Roedd Nigel yn ardderchog a’r ystafell i gyd yn ddistaw wrth wrando arno’n astud.  Hefyd llongyfarchiadau i Sharon Hammond o Faesyfed am ennill Gwobr Meurig Raymond.

Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda cyflwyniad gan Joe Twyman, Cyd-sylfaenydd Deltapoll ar “Beth mae cefn gwlad yn meddwl”:  y tirlun boliticaidd yn seddi cefn gwlad Prydain, i’w ddilyn gan sesiwn hysting boliticaidd a barnau ymateb boliticaidd o’r fferm.

Terfynodd y Llywydd Minette Batters y Gynhadledd a diolchodd i’r aelodau am eu holl waith a’u cefnogaeth.  Safodd bawb yn y gynhadledd ar eu traed  i gymeradwyo Minette am ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth fel Llywydd yr NFU yn ystod ei thymor o  chwe mlynedd.  Mae wir yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

‘Roedd yn gynhadledd bleserus iawn, yn addysgiadol ac yn pryfocio syniadau ac fe fu modd i ddysgu a chymysgu gyda gwahanol bobl o fewn y diwydiant.