Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn mynychu Cynhadledd NFU
Cafodd gynrychiolwyr o CFfI Cymru eu gwahodd i fynychu cynhadledd yr NFU a gafodd ei gynnal yn yr ICC yn Birmingham.
‘Roedd yn gynhadledd deuddydd ardderchog a’r thema oedd “Bwyd Prydeinig: pa gynllun i’r dyfodol?” Dechreuodd y gynhadledd gyda araith gan y Llywydd Minette Batters. Nododd ei bod yn disgwyl clywed yn ystod y ddau ddiwrnod sut mae gwleidyddion a rheolyddion yn cynllunio i sicrhau dyfodol dirgrynol a buddiol i gynhyrchiad bwyd ar draws y DU.
Dechreuodd y gynhadledd gyda araith boliticaidd gan y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, ac wedyn ei ddilyn gan Jack Bobo , Cyfarwyddwr Sefydliad Systemau Bwyd , Prif Ysgol Nottingham yn rhoi cyflwyniad ar Systemau Bwyd Prydeinig yn y Cyswllt Byd-eang. Cafwyd sesiwn ar dyfodol bwyd Prydeinig ac ar y panel ‘roedd Sarah Bradbury, Prif Weithredwr Sefydliad Dosbarthu Bwydydd, Yr Athro Susan Jebb OBE, Cadeirydd Asiantaeth Safonau Bwyd a Kate Nicholls OBE, Prif Weithredwr Lletygarwch y DU. I ddilyn hyn fe gawsom gyflwyniad ar Ffermio a’r Amgylchedd gan y Cadeirydd Alan Lovell a diwedd y diwrnod gyda sesiynau cynwydd.
Cawsom noson hwyliog gyda Nigel Owens, OBE fel y gwr gwadd. ‘Roedd Nigel yn ardderchog a’r ystafell i gyd yn ddistaw wrth wrando arno’n astud. Hefyd llongyfarchiadau i Sharon Hammond o Faesyfed am ennill Gwobr Meurig Raymond.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda cyflwyniad gan Joe Twyman, Cyd-sylfaenydd Deltapoll ar “Beth mae cefn gwlad yn meddwl”: y tirlun boliticaidd yn seddi cefn gwlad Prydain, i’w ddilyn gan sesiwn hysting boliticaidd a barnau ymateb boliticaidd o’r fferm.
Terfynodd y Llywydd Minette Batters y Gynhadledd a diolchodd i’r aelodau am eu holl waith a’u cefnogaeth. Safodd bawb yn y gynhadledd ar eu traed i gymeradwyo Minette am ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth fel Llywydd yr NFU yn ystod ei thymor o chwe mlynedd. Mae wir yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.
‘Roedd yn gynhadledd bleserus iawn, yn addysgiadol ac yn pryfocio syniadau ac fe fu modd i ddysgu a chymysgu gyda gwahanol bobl o fewn y diwydiant.