Newyddion CFfI Cymru
CFFI CYMRU YN GWNEUD SIOE RITHIOL O’R SIOE FAWR
Bydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn cyflwyno arlwy gwahanol ond adnabyddus o’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.
Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yw ffenest siop y mudiad i arddangos talentau diddiwedd ein haelodau mewn ystod eang o feysydd, ac rydym yn awyddus i addasu ein llwyfan er mwyn dathlu’r perlau syn rhan annatod o ymweliad a’r Sioe yn ystod wythnos arferol Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd rhaglen uchelgeisiol yn cyfuno cystadlaethau rhithiol a rhaglenni arbennig, sydd wedi’u haddasu ar gyfer y sioe gydag atgofion melys o CFfI Cymru mewn Sioeau a fu. Bydd hefyd digwyddiadau amrywiol yn cael ei ffrydio gan ein pwyllgorau amrywiol ac wrth galon y cyfan mi fyddwn yn dathlu ein gwreiddiau amaethyddol.
Rydym yn ysu i greu naws y Sioe a’r Pentref Ieuenctid gan ddod a’r sioe i’ch soffa yn ystod yr wythnos drwy ddefnyddio ein gwefannau cymdeithasol a’n gwefan i drosglwyddo’r neges.
Dywedodd Erica Swan, Cadeirydd y Pwyllgor cystadlaethau;
“Bu’r llwyfan rhithiol a gynhaliwyd ar ddechrau’r cyfnod clo yn boblogaidd iawn yn ystod y cyfnod ac rydym yn awyddus iawn i geisio llenwi’r bwlch a adawyd gan y diffyg darpariaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd tîm CFfI Cymru yn awyddus i gynnig darpariaeth a fyddai’n ailgynnau diddordeb ein haelodau ac yn
rhoi teimlad o’r wythnos arbennig sy’n rhan anatod o fywydau cymaint o’n haelodau a’u teuluoedd yn flynyddol. Mae hefyd yn gyfle gwych i ni fel mudiad ymhyfrydu yn yr amrywiaeth o dalent a darpariaeth sydd a’r gael gennym a’n galluogi i ymfalchïo ynddo. Rhaid diolch i’r beirniaid sydd wedi bod mor barod i roi o’u hamser, a hefyd i’r noddwyr sydd wedi cytuno i gefnogi drwy gynnig gwobrau ar gyfer yr aelodau a ddaw i’r brig. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn y gwaith diflino sydd wedi parhau rhyngom ni a’n partneriaid yn ystod y cyfnod. Er yn wahanol iawn i sioe arferol ni allwn aros at groesawu pawb i’r Sioe Rithiol.”
A hithau’n gyfnod pryderus i elusennau a mudiadau gwirfoddol fel ni, bydd y digwyddiad yn cynnig llais a llwyfan i waith clodwiw ein haelodau gan ddarparu platfform i ni fedru canmol a meithrin dawn ein haelodau ar adeg pan mae ei angen fwyaf.
Dywedodd Katie Davies, Cadeirydd CFfI Cymru;
“Erbyn hyn mae adran y CFfI wedi dod yn fan cyfarfod a stop anorfod i unrhyw ymweliad a’r sioe, sy’n denu trawstoriad o gynulleidfa bob dydd i weld beth sydd gan y mudiad i’w gynnig. Rydym mor falch o fedru addasu’r arlwy i siwtio’r fformat rhithiol eleni. Mae’n dda gweld fod y siroedd wedi cydio yn y syniad a gobeithiwn yn fawr y caiff ein haelodau gyfle i fwynhau rhyw fath o Sioe yn 2020. Mae’n dda gweld parodrwydd yr aelodau i ddefnyddio eu dychymyg ac ystyried sut allant oroesi yn ystod y cyfnod anodd yma a pharhau i feithrin talent a goroesi yn ystod y cyfnod hwn a hynny’n hollol ddigidol am y tro cyntaf.”
Rydym mewn cyfnod o newid mawr sy’n bell fywyd arferol, ond mae’n galonogol i weld bod amaethwyr a gwirfoddolwyr y mudiad wedi ymdopi gystal. Rydym fel Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn hynod falch o’u cefnogi gyda chefnogaeth amhrisiadwy ein noddwyr a’n partneriaid drwy gynnig gwledd o wythnos pan ddaw’r CFfI a’r Sioe i’ch cartrefi. Ymunwch a holl frwdfrydedd y cystadlu a’n digwyddiadau ar ein digwyddiad Facebook yma.