Newyddion

CFfI Cymru Yn Gwneud Democratiaeth Ddigidol

Am y tro cyntaf yn hanes 85 mlynedd y mudiad, mae aelodau CFfI Cymru wedi ethol eu cyngor yn rhithiol.

Ar 19 Medi 2020, cynhaliodd CFfI Cymru ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhithwir cyntaf ers ei greu ym 1936. Yn hanesyddol, bob hydref mae aelodau a chymdeithion yn heidio gyda’i gilydd er mwyn ethol y Cyngor Cenedlaethol. Serch hynny, eleni, oherwydd COVID-19, mae CFfI Cymru wedi cael ei orfodi i addasu er mwyn cynnal trefn cyfansoddiad y ffederasiwn gan ddibynnu ar system bleidleisio ddigidol.

Manteisiwyd ar y cyfle i aelodau fwrw eu pleidleisiau i benderfynu ar grŵp Swyddogion CFfI Cymru 2020-21 gyda chynrychiolaeth o’r 12 sir a oedd yn bresennol trwy Zoom. Canmolodd y mynychwyr  effeithlonrwydd y digwyddiad, hyd yn oed yn awgrymu ymgorffori’r ddiwygiad  newydd i bleidleisio mewn i digwyddiadau yn y dyfodol.

Etholwyd yn briodol Katie Davies o CFfI Sir Benfro, a safodd i’w hailethol yn Gadeirydd CFfI  Cymru ynghyd â Caryl Haf, CFfI Ceredigion yn parhau â’i deiliadaeth eto eleni fel Is-Gadeirydd. Bydd Mr Geraint Lloyd hefyd yn cefnogi’r mudiad unwaith eto trwy gydol 2020-21 yn ei rôl fel Llywydd ynghyd â dewis o 12 Llywydd anrhydeddus.

Ers ei hethol yn Gadeirydd, dywedodd Katie Davies; “Mae’n anrhydedd imi gael fy ailethol unwaith eto eleni fel Cadeirydd CFfI Cymru ac rwy’n falch o weld bod Sefydliadau Ieuenctid wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru fel rhan hanfodol o’r ymdrechion adfer ôl-COVID yng Nghymru. Mae Clybiau CFfI Cymru yn rhan hanfodol o’n cymunedau gwledig yng Nghymru.

Gyda chlybiau lleol bellach yn gallu ystyried ymgynnull mewn modd cymdeithasol bell yn dilyn y cyngor a’r arweiniad a gyhoeddwyd gan NFYFC, gobeithiaf y byddaf yn gallu cyflawni fy amcan o’r llynedd i fynd allan a chwrdd â mwy o aelodau ar draws lawr gwlad. ”

Chwith i’r Dde; Caryl Haf (Is-gadeirydd), Katie Davies (Cadeirydd)