Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn dathlu lansiad llwyddiannus Adroddiad Effaith yn y Senedd fel rhan o dathliadau pen-blwydd 90 oed
Lansiodd CFfI Cymru (Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru) Adroddiad Effaith 2026 mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Mawrth, 27 Ionawr 2026 am 6:00yh. Cynhaliwyd y digwyddiad llwyddiannus gan Aelod o’r Senedd Samuel Kurtz ac roedd pobl ifanc, partneriaid, cefnogwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o sector gwledig Cymru yn bresennol. Noddwyd yn garedig gan Samuel Kurtz, Ymddiriedolaeth Elusennol NFU a chefnogwyd gan Cronfa Gymunedol y Loteri.


Mae’r lansiad yn rhan allweddol o ddathliadau pen-blwydd CFfI Cymru yn 90 oed, gan nodi naw degawd o gefnogi pobl ifanc mewn cymunedau gwledig. Wrth i’r sefydliad fyfyrio ar ei gyfraniad hirsefydlog i gymunedau gwledig Cymru, mae’r Adroddiad Effaith yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwirioneddol mudiad y ffermwyr ifanc a phwysigrwydd cynnal y sefydliad am y 90 mlynedd nesaf.
Mae Adroddiad Effaith 2026 yn canolbwyntio ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc a sut mae hyn yn effeithio arnynt fel unigolion trwy ymgysylltu â datblygu arweinyddiaeth, hyfforddiant sgiliau, ymgysylltu â’r gymuned a phartneriaethau strategol. Mae’r cyfan yn cael ei gynnig drwy CFfI Cymru. Agorwyd y cyflwyniad gan Samuel Kurtz, AS a’i gloi gan y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies.


Tynnodd aelodau CFfI Cymru sylw at arwyddocâd sut mae bod yn aelod o’r sefydliad wedi bod o fudd iddynt fel unigolion a’r effaith y mae wedi’i chael yn rhedeg drwy’r pedair prif thema: Iaith a Diwylliant Gymraeg, Sgiliau a Chyflogadwyedd, Iechyd a Lles a Chynaliadwyedd Gwledig.

Daeth y noson i ben gyda CFfI Cymru yn tynnu sylw at ei dathliadau 90 mlynedd drwy gydol 2026 a rhwydweithio. I ddarllen yr adroddiad effaith, cliciwch ar y ddolen yma: https://www.canva.com/design/DAG_C02zAPA/mL9HGBUF92r8gkkykiZn5Q/view?utm_content=DAG_C02zAPA&utm_campaign=designshare&utm_medium=link2&utm_source=uniquelinks&utlId=hfb175ccddb