Newyddion CFfI Cymru

CFfI Cymru yn dathlu 90 mlynedd gyda lansiad raffl cyffrous

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI) yn falch iawn o  gyhoeddi lansiad ei Raffl Pen-blwydd yn 90 oed, sy’n nodi carreg filltir arwyddocaol yn hanes y sefydliad. Ers naw degawd, mae CFfI Cymru wedi bod wrth galon cymunedau gwledig, gan rymuso pobl ifanc a meithrin arweinyddiaeth, cyfeillgarwch a thwf.

I ddathlu’r cyflawniad anhygoel hwn, mae CFfI Cymru yn rhoi cyfle i gefnogwyr ennill gwobrau gwych.

Mae tocynnau ar gael ar-lein neu yn ein digwyddiadau sydd i ddod, ac mae pob pryniant yn cefnogi datblygiad parhaus pobl ifanc ledled Cymru drwy hyfforddiant, cystadlaethau a phrosiectau cymunedol gyda deg y cant o bob tocyn a brynwyd yn mynd i Ymchwil Canser Cymru.

Manylion Allweddol:

  • Pris Tocyn: £5 y tocyn neu £20 y llyfr
  • Mae’r gwobrau’n cynnwys: Trelar Da Byw Ifor Williams, Peiriant Torri Lawnt Robot gan A&B Plant a Tool Hire, Gwyliau cynnar yn 2027 i fyny at 4 o bobl yn Bluestone, Taleb Ariat £250, tocyn blynyddol i’r teulu i Fferm Folly, Lisa Jones Hays Travel – taleb £200, Hamper Bwyd Cymreig Castell Howell, Bwndel Dillad ‘Sugar Loaf’ a llawer mwy.
  • Dyddiad Tynnu: 1 Rhagfyr 2026

Sut i Gystadlu:
Gellir prynu tocynnau ar-lein https://www.peoplesfundraising.com/raffle/wales-yfc-90th-year-grand-raffle neu yn bersonol yn nigwyddiadau CFfI Cymru drwy gydol 2026.

Ymunwch â ni i ddathlu 90 mlynedd o CFfI Cymru.