Newyddion

CFfI Cymru yn Croesawu Prif Weithredwr Newydd

Dechreuodd cyn Pennaeth Gweithrediadau’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Mared Rand Jones ar ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ar yr 16eg o Ionawr 2023.

Magwyd Mared Rand Jones ar fferm laeth, Llanfair Fach, Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan a hi yw’r hynaf o bedwar o blant. Mae hi bellach yn byw yn Nhregaron ond mae ei gwreiddiau dal yn agos iawn at y fferm deuluol.

Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr.

Ar hyn o bryd mae Mared yn un o Aelodau Cyngor ASAO ac yn gyn-Gadeirydd “Cynnal y Cardi” (Grŵp Gweithredu Lleol Ceredigion) ac yn Gyfarwyddwr Coleg Ceredigion. Hefyd, bu Mared yn ffodus i fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn 2016.

Mae’n aelod o Sioe Amaethyddol Llambed, Sioe Feirch Llambed, Clwb Rotari Llambed a Merched y Wawr, Tregaron. Mae hi hefyd yn un o 6 menyw sy’n gyfrifol am drefnu Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg lwyddiannus Tregaron o’r enw “TregaRoc”.

Mae Mared yn mwynhau actio ac yn aelod o gwmni actio Theatr Felinfach ac yn actio’r cymeriad “PC Wpsi Deisi” yn y pantomeim Nadolig blynyddol. Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau nofio, gwylio rygbi a chymdeithasu gyda ffrindiau.

Mae Mared wedi bod yn gweithio fel Pennaeth Gweithrediadau i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ers bron i bum mlynedd ac wedi mwynhau pob agwedd o’i rôl yn fawr. Cyn hynny bu’n gweithio fel Swyddog Gweithredol Sirol i Undeb Amaethwyr Cymru a Swyddog Datblygu CFfI Ceredigion am bron i 11 mlynedd. Mae’n gyn-aelod o CFfI Llanddewi Brefi a bu’n cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, daliodd nifer o swyddi clwb a bu hefyd yn gynorthwyydd i CFfI Ceredigion yn 2004 ac mae bellach yn un o arweinwyr y clwb.

Wrth wneud sylwadau ar ei phenodiad fel y Prif Weithredwr newydd, dywedodd Mared Rand Jones:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio fel Prif Weithredwr CFfI Cymru, sefydliad sy’n agos iawn at fy nghalon. Mae CFfI yn sefydliad ardderchog ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru sy’n cynnig cyfleoedd diddiwedd i aelodau rhwng 10 a 28 oed ac rwy’n gyffrous i gael gweithio gyda’r aelodau, swyddogion a staff i arwain a gyrru’r mudiad yn ei flaen”.

Dywedodd Cadeirydd y Ffederasiwn, Hefin Evans:

“Mae’n anrhydedd i benodi Miss Mared Rand Jones fel Prif Weithredwr CFfI Cymru. Mae gan Mared digon o brofiad o fewn y mudiad wrth fod yn cyn aelod a cyn trefnydd Sir i Geredigion. Gyda’i sgiliau a phrofiad wrth fod yn y mudiad a gweithio yn y RWAS, bydd hi’n dod mewn ag egni ardderchog i ddatblygu gyda’r tîm o staff ifanc a brwdfydrig a swyddogion CFfI Cymru a’r gwaith ardderchog nhw, gan gadw’r mudiad i symud ymlaen”

Mae’r Ffederasiwn yn edrych ymlaen yn awr at eu calendr prysur gyda’r Wledd o Adloniant yn cael ei chynnal ddechrau mis Mawrth yn Pontio, Bangor. Mae’n deg dweud bod cyfnod cyffrous o’n blaenau i CFfI Cymru!