Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn cael effaith yn y Senedd
Ar 10fed o Ionawr 2024, teithiodd aelodau, swyddogion, a chefnogwyr o bob rhan o Gymru i lawr i Gaerdydd i lansio Adroddiad Effaith CFfI Cymru yn y Senedd.
Mynychodd Trefnyddion a Chadeiryddion Sirol Gwent, Maldwyn, Maesyfed, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Morgannwg, Brycheiniog, Meirionnydd a Sir Benfro i gyd a chynnal arddangosfa liwgar i arddangos yr holl waith a digwyddiadau sy’n digwydd yn eu siroedd drwy gydol y flwyddyn. Cerddodd Aelodau o’r Senedd o gwmpas yr arddangosfeydd a siarad â gwahanol siroedd.



Ar ôl i’r mynychwyr fwynhau bwffe blasus a noddwyd gan Forest Arms, Brechfa, aeth mynychwyr i lawr i’r cyntedd ar gyfer y prif lansiad. Agorodd Samuel Kurtz AS y noson gydag araith am bwysigrwydd y mudiad, ac yna fideo a oedd yn crynhoi blwyddyn y CFfI yn tynnu sylw at yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a chystadlaethau sy’n digwydd trwy gydol y flwyddyn. Yna aeth Cadeirydd CFfI Cymru, Rhys Richards i’r llwyfan i siarad am yr Adroddiad Effaith.




Yn ddiweddarach yn y nos, trawsnewidiodd Aelod Hŷn y Flwyddyn, Endaf Griffiths o CFfI Ceredigion yn gyflwynydd sioe siarad wrth iddo gyfweld â Cennydd Jones, Sian Eleri, Leanne Davies a Kate Miles am eu profiad o fudiad y ffermwyr ifanc a pha sgiliau y maent yn eu defnyddio o’u hamser fel aelodau yn eu rolau proffesiynol gan dynnu sylw at y pedair colofn allweddol o’r adroddiad. 1) Cefnogi a thyfu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. 2) Cefnogi a galluogi ein cymunedau gwledig lleol a bod yn rhan hollbwysig ohonynt. 3) Datblygu sgiliau a chyflogadwyedd ein haelodau trwy ddigwyddiadau, cystadlaethau, hyfforddiant a datblygu. 4) Cefnogi ieched a lles ein haelodau trwy cyfleoedd iddynt fod yn hwy eu hunain, cwrdd a ffrindiau a rhoi cynnig ar bethau newydd. Ymunodd Llywydd y Senedd, Elin Jones â’r panel ar y llwyfan gan gyflwyno geiriau caredig am y mudiad.

Caewyd y noson gyda pherfformiad hyfryd o ‘Cae o Ŷd’ gan CFfI Penybont o Sir Gaerfyrddin a oedd wedi ennill Cystadleuaeth Parti Unsain yn Eisteddfod CFfI Cymru 2023 yn Ynys Môn.



Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Samuel Kurtz AS am gynnal y lansiad, Forest Arms, Brechfa am noddi’r lansiad, Samkat am gynhyrchu’r adroddiad, yr holl aelodau a gymerodd ran yn y cyflwyniad, Elin Jones am ei geiriau caredig, yr holl siroedd CFfI a fynychodd ac Aelodau Seneddol a phartneriaid CFfI Cymru a gefnogodd y lansiad.
I ddarllen Adroddiad Effaith CFfI Cymru, cliciwch yma > yfc.wales/app/uploads/2023/10/Adroddiad-Effaith-CFfI-Cymru_digital.pdf