Newyddion CFfI Cymru
CFfI CYMRU I RYDDHAU SENGL ER MWYN DATHLU DYDD MIWSIG CYMRU
Mae CFfI Cymru yn rhyddhau sengl a fydd yn fersiwn o’r gân ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor mewn cydnabyddiaeth a Dydd Miwsig Cymru gan hefyd ennyn sylw at elusen iechyd meddwl Cymraeg.
Bydd y gân yn cynnwys aelodau o’r deuddeg ffederasiwn ledled Cymru gan gydweithio a’r gantores a’r gyflwynwraig teledu Lisa Angharad yn ogystal a BBC Radio Cymru. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan adran Gymraeg y Llywodraeth.
Bydd y sengl yn rhoi cyfle i unigolyn o bob sir arddangos eu talent yn ogystal a chôr CFfI Cymru a fydd wedi ei wneud fyny o aelodau ledeled Cymru gan gynnwys Swyddogion a Staff CFfI Cymru.
Mae’r recordio am gymryd lle yn stiwdio Sain, Llandwrog ac ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid yn ystod mis Ionawr gyda’r gân yn cael ei lansio ar Dydd Miwsig Cymru ei hun, sef y 7fed o Chwefror. Yn ogystal a chael ei recordio yn broffessiynnol bydd y sesiynnau recordio yn cael eu ffilmio er mwyn gwneud ffilm i gyd-fynd a’r sengl.
Bydd y siwrne o’r recordio hyd at y lansiad yn cael ei ddilyn gan raglen Ifan Evans ar BBC Radio Cymru. O’r 3ydd-7fed o Chwefror y sengl yma bydd trac yr wythnos ar BBC Radio Cymru. Mae rhaglen Ifan Evans am fod yn dilyn yr holl daith gan siarad â chyfranogwyr.
Mae CFfI Cymru yn bwriadu rhoi canran o’r arian wrth werthu’r sengl i elusen iechyd meddwl Cymraeg yma yng Nghymru, meddwl.org. Mae’r elusen meddwl wedi’w selio ar wefan ble mae posib dod o hyd gefnogaeth; boed hynny’n darllen am brofiadau eraill, dysgu mwy am iechyd meddwl neu gwybodaeth am ble i gael cymorth.
Bwriad Dydd Miwsig Cymru yw dathlu pob math o gerddoriaeth neu fiwsig Cymraeg. Diolchwn yn fawr i drefnwyr Dydd Miwsig Cymru o adran Gymraeg y Llywodraeth am eu cefnogaeth wrth ariannu’r prosiect. Bydd y sengl ar gael i’w lawr lwytho ar Spotify o’r 7fed o Chwefror ymlaen gyda lansiad yn cael ei gynnal gyda’r nos ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Os hoffwch ymuno yn y côr, bydd y recordio yn cymryd lle ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid dydd Sul hwn y 12fed o Ionawr. Cysylltwch i ddangos diddordeb drwy e-bostio ffion.pennant@yfc-wales.org.uk neu cysylltwch â’r swyddfa ar 01982 553502.